Leighton Andrews

AC Leighton Andrews
Leighton Andrews


Cyfnod yn y swydd
1 Mai 2003 – 6 Ebrill 2016
Rhagflaenydd Geraint Davies
Olynydd Leanne Wood

Geni (1957-08-11) 11 Awst 1957 (67 oed)
Cymru Caerdydd, Cymru
Plaid wleidyddol Llafur Cymru
Priod Ann Beynon
Alma mater Prifysgol Bangor, Prifysgol Sussex

Gwleidydd Cymreig yw Leighton Andrews (ganwyd 11 Awst 1957). Fe'i etholwyd yn Aelod Cynulliad dros y Rhondda yn 2003 a chafodd ei ail-ethol yn 2007 a 2011. Collodd ei sedd i arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood yn etholiad y Cynulliad, 2016.

Roedd Andrews yn Weinidog Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau Llywodraeth Cymru rhwng 2009 a 2013. Dilynodd Jane Hutt AC yn y swydd hon. Mae ei weithgareddau yn cynnwys lansio y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg gyntaf erioed. Bu rhaid iddo ymddiswyddo yn Mehefin 2013 am iddo ar y teledu arddangos posteri a oedd yn erbyn ei bolisiau ef ei hunan.[1] Fe'i benodwyd yn Weinidog dros Wasanaethau Cyhoeddus yn 2014.

Ganwyd Leighton Andrews yng Nghaerdydd a chafodd ei fagu yn y Barri nes oedd yn 11 oed pan symudodd y teulu i Dorset. Mae ganddo radd mewn Saesneg a Hanes o Brifysgol Bangor ac MA mewn Hanes o Brifysgol Sussex. Bu'n Athro anrhydeddus ym Mhrifysgol Westminster rhwng 1997 a 2002 a hefyd ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae'n briod i Ann Beynon sy'n gyfarwyddwraig BT yng Nghymru; mae ganddyn nhw ddau o blant.

Roedd Leighton Andrews yn ffigwr dadleuol. Fe osododd, er enghraifft, y nod o sicrhau lle i Gymru yn yr 20 uchaf yn nhabl PISA erbyn 2015. Yn eu tro datganodd ei anfodlonrwydd ar ysgolion, awdurdodau lleol, prifysgolion, byrddau arholi a'i adran ef ei hun ym Mharc Cathays [2]

Ffynonellau

  1. http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-23056173 Gwefan BBC yn Saesneg.
  2. Barn rhifyn 606/607 Gorffennaf/Awst 2013.


Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.