Chief Whip, Y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, Minister for Local Government and Communities, Aelod o Ail Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Aelod o 3ydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Aelodau 4ydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Aelod o 5ed Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Aelod o 5ed Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cabinet Secretary for Communities and Children
Gwleidydd o Gymro oedd Carl Sargeant (27 Gorffennaf1968 – 7 Tachwedd2017) a oedd yn Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant yn Llywodraeth Cymru.[2] Roedd wedi cynrychioli etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy ers iddo gael ei ethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2003. Cafodd ei wahardd o'r Blaid Lafur ar 3 Tachwedd 2017 yn dilyn honiadau am ei ymddygiad a fe'i ganfuwyd yn farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach.
Bywyd cynnar
Ganwyd Sargeant yn Llanelwy, Sir Ddinbych. Cyn dod yn Aelod Cynulliad, roedd Sargeant yn gweithio yn y diwydiant gweithgynhyrchu mewn ffatri gemegol arbennigol yn Mostyn. Roedd hefyd yn archwilydd ansawdd ac amgylcheddol ac yn aelod o Dîm Ymateb Argyfwng y safle. Hyfforddodd fel diffoddwr tân diwydiannol a bu'n lywodraethwr yng Ngholeg Glannau Dyfrdwy ac Ysgol Bryn Deva.
[3]
Gyrfa
Cychwynnodd ei yrfa wleidyddol fel aelod o Gyngor Tref Cei Connah a bu'n byw yn y dref hyd ei farwolaeth. Datblygodd ei ddaliadau gwleidyddol pan ddaeth cynhyrchu dur i ben yng ngwaith Shotton yn 1980, a arweiniodd at gyfraddau uchel o ddiweithdra yn yr ardal. Daeth yn ymgyrchydd gweithgar dros gyfiawnder cymdeithasol ac yn erbyn trais yn y cartref..[3]
Yn y Trydydd Cynulliad, fe'i apwyntiwyd yn Brif Chwip y Grŵp Llafur a'i swydd gyntaf yn y Llywodraeth oedd y Dirprwy Weinidog dros Fusnes y Cynulliad. Parhaodd gyda swydd y Prif Chwip pan cyhoeddwyd y glymblaid rhwng Y Blaid Lafur a Phlaid Cymru ar 19 Gorffennaf.[5]
Yn Rhagfyr 2009, daeth yn Weinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol yng nghabinet Carwyn Jones. Mewn cyfweliad gyda'r Flintshire Chronicle, soniodd Sargeant am ei falchder o fod yr unigolyn cyntaf o ogledd Cymru i ddal y swydd.[5]
Yn 2011 daeth yn Weinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. Ym Mehefin 2011, diswyddodd y tri comisiynydd o Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru gan ddweud bod y corff wedi colli hyder eu rhanddeiliaid.[6] Gwnaeth y ddau a oedd hefyd yn aelodau o Gomisiwn Ffiniau i Gymru ymddiswyddo o'i swyddi yno, ac arweiniodd hyn at y chweched adolygiad o etholaethau San Steffan i gael ei oedi yng Nghymru.[7]
Roedd wedyn yn Weinidog Tai ac Adfywio hyd at Medi 2014, pan gafodd ei benodi yn Weinidog Cyfoeth Naturiol.[8]
Yn dilyn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2016, fe'i apwyntiwyd yn Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant Llywodraeth Cymru. Ar 3 Tachwedd 2017 fe gollodd ei swydd fel yn dilyn honiadau am aflonyddu rhywiol. Fe'i waharddwyd o'r Blaid Lafur hefyd tra fod ymchwiliad yn cael ei gynnal.
Marwolaeth
Ar 7 Tachwedd 2017 cafodd ei ddarganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah. Roedd ganddo wraig a dau o blant.[9]
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ei fod "mewn sioc ac yn drist iawn am ei farwolaeth. Fe wnaeth gyfraniad mawr i fywyd cyhoeddus Cymru a gweithiodd yn ddiflino dros y bobl roedd e'n eu cynrychioli fel Gweinidog ac Aelod Cynulliad".
Ar 11 Gorffennaf 2019, cyhoeddwyd canlyniad y cwest i'w farwolaeth a cofnododd y crwner, John Gittins, achos o hunan-laddiad. Dywedodd hefyd y dylai mwy o gefnogaeth gael ei roi i weinidogion sy'n colli'u swyddi.[10]