Yn y cyfnod Rhufeinig, roedd Holt yn safle o bwys. Lleolwyd gweithfa llengcaer RufeinigDeva (Caer) yn Holt (Bovium), lle cynhyrchid crochenwaith a theiliau at ddefnydd miwrol a sifil. Gorwedd y safel ar lan orllewinol afon Dyfrdwy ger y pentref. O bryd i'w gilydd mae darnau o grochenwaith yn cael eu darganfod o hyd wrth droi'r caeau.
Codwyd castell ar gynllun pentagonaidd gyda thŵr ar bob cornel gan yr arglwydd lleol John de Warenne, arglwydd Brwmffild a Iâl, a dderbyniodd ei dir gan Edward I o Loegr ar ôl 1282. Roedd Castell Holt yn adfail erbyn y 17g; y cwbl a erys heddiw yw rhannau isel muriau'r gorthwr mewnol, porth a grisiau. Cafodd gweddill yr adfeilion ei symud ar gychod i lawr afon Dyfrdwy ar ôl gwarchae yn ystod Rhyfel Cartref Lloegr a'u defnyddio at adeiladau Neuadd Eaton.
Eglwys Sant Chad
Mae rhannau o Eglwys Sant Chad yn dyddio i'r 15g a'r 17g a chofrestwryd hi yn Gradd I gan Cadw ers 17 Gorffennaf 1996. Ceir motiffau ar y fedyddfaen sy'n cynrychioli Harri Tudur a theulu'r Stanleys a wnaed tua 1483.
Yr enw Cymraeg ar y bont yw 'Pont Rhedynfre' neu 'Bont Holt', sef y pentref ar ochr Cymru o'r afon (hefyd: Pont Farndon)[7] Yr enw a ddefnyddir yn Saesneg arni yw 'Farndon Bridge' (cyfeiriad gridSJ412544) sy'n dod o enw'r pentref sydd yr ochr arall i'r bont, yn Sir Gaer, ac felly'n cysylltu Cymru a Lloegr, dros Afon Dyfrdwy. Mae'r bont yn dyddio i tua 1339 ac fe'i codwyd gan fyneich o Abaty Sant Werburgh, Caer. Ceir chwedl leol i ddau o feibion Madog ap Gruffudd of Dinas Brân, Llangollen foddi yma ger y bont, a bod eu sgrechiadau yn dal i'w clywed ar adegau.[8]
↑"Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.