Pentref yng nghymuned Rhosllannerchrugog, bwrdeistref sirol Wrecsam, Cymru, yw Tre Ioan[1] (Saesneg: Johnstown).[2] Saif ar ochr ddwyreiniol Rhosllannerchrugog. Mae'r boblogaeth tua 4,000. Ceir pedair tafarn yma.
Tyfodd y pentref o gwmpas y diwydiant glo, ac mae Glofa'r Hafod i'r dwyrain o'r pentref. Trowyd hen domen sbwriel y lofa yn Barc Gwledig Bonc yr Hafod.
Ceir rhan o Glawdd Offa gerllaw'r pentref.
Cyfeiriadau