Gruffydd ap Rhys ap Thomas
![]() Uchelwr cyfoethog a phwerus oedd Syr Gruffydd ap Rhys (c. 1478–1521) neu Gruffydd ap Rhys ap Thomas ac a adnabyddir fel Griffith Ryce mewn llawysgrifau Saesneg. Roedd yn fab i Syr Rhys ap Thomas, rheolwr de facto De Cymru a fu mor allweddol i lwyddiant Harri Tudur ym Mrwydr Maes Bosworth yn 1485 ac Efa ap Henry.[1]. Roedd yn dad i Rys ap Gruffudd ond ni throsglwyddwyd ei diroedd, ei deitlau na'i gyoeth i'w fab, gan i Harri VIII, brenin Lloegr eu meddiannu a'i ddienyddio am frad. Magwraeth frenhinolCefnogwyd brenin Lloegr gan nifer fawr o uchelwyr Cymru, yn bennaf gan iddynt dderbyn eu tiroedd a'u harian am wrthwynebu Owain Glyn Dŵr. Roedd eu teyrnagrwch i'r brenin yn gyfystyr a theyrngarwch i'r Lancastriaid a Lancastriad oedd Siasbar a Harri Tudur. Yn 1483 mynnodd Richard III, brenin Lloegr Gruffydd yn wystlys, er mwyn cadw'i dad Rhys ap Thomas yn driw iddo. Mynnodd hefyd fod Rhys yn tyngu llw o ffyddlondeb iddo a gwnaeth hynny i dawelu'r dyfroedd, ond gwrthododd ddanfon ei fab pedair oed ato fel gwystl.[2] Wedi llwyddiant Harri Tudur a'i dad Rhys ap Thomas ym Maes Bosworth, magwyd Gruffudd a mab hynaf Harri, sef Arthur Tudur gyda'i gilydd am rai blynyddoedd. Dywedwyd ar y pryd eu bod yn ffrindiau da ac yn 1501 gwnaed Gruffydd yn Farchog y Gardas Aur. Roedd gydag Arthur pan ddychwelodd o Lwydlo gyda'i briodferch yn Rhagfyr 1501. Roedd hefyd yn bresennol pan fu farw Arthur yn Ebrill 1502 ac roedd Gruffudd yn un o'r prif alarwyr. Teithiodd gyda chorff y tywysog o Lwydlo i Gaerwrangon gan gario'i faner. ![]() TeuluPriododd Catherine St John, perthynas i Margaret Beaufort tua 1507. Ar farwolaeth Harri VII, bu'r brenin newydd yn driw i'r teulu ac aeth Gruffydd gydag ef i gyfarfod a elwir yn Maes y Llian Aur (Field of the Cloth of Gold) yn Ffrainc yn 1520. Marw'n ifancBu farw'n ifanc - tua 43 oed, a hynny cyn ei dad. Ond gadawodd fab ac etifedd - Rhys ap Gruffydd a ddienyddiwyd ar gam gan Harri VIII, fwy na thebyg gan fod Harri'n brin o bres. Saif ei feddrod hyd heddiw yn Eglwys Gadeiriol Caerwrangon. Gweler hefyd
Cyfeiriadau |