Cadeirlan Anglicanaidd a leolir yng Nghaerwrangon, Lloegr, yw Eglwys Gadeiriol Caerwrangon. Dyma sedd esgob Caerwrangon. Priordy ar gyfer Urdd Sant Bened oedd yr adeilad yn wreiddiol, ac fe'i dyrchafwyd i statws cadeirlan yn y Diwygiad Protestannaidd. Fe'i adeiladwyd rhwng 1084 a 1504 a gellir olrhain yno pob cam yn hanes pensaernïaeth Lloegr yn ystod y canrifoedd hynny: yr addull Normanaidd (Romanésg) yn y gladdgell, y cabidyldy cylchog ac ambell i fan arall, a'r tri math o arddull Gothig Seisnig (Cynnar, Addurnedig a Pherpendicwlar). Ceir nifer fawr o gofadeiladau yno gan gerflunwyr a phenseiri megis Jean-François Roubiliac, Joseph Nollekens, Robert Adam a Francis Chantrey. Fe'i adnewyddwyd yn helaeth rhwng 1857 a 1863 gan A. E. Perkins a George Gilbert Scott. Mae'n adeilad rhestredig Gradd I.[1]
Priododd Llywelyn ap Gruffudd ac Elinor de Montfort yma ar 13 Hydref 1278.
-
Corff yr eglwys (1317–1377), yn edrych tua'r gorllewin
-
Corff yr eglwys a'r pulpud (1642), yn edrych tua'r dwyrain
-
Capel Mair (1224–1250) a ffenestr y dwyrain
-
Yr organ
-
Y cloestr
-
Y gladdgell Normanaidd
-
Beddrod John de Beauchamp a'i wraig
Detholiad o bobl a gladdwyd yno
Cyfeiriadau