Un o daleithiau Indonesia yw Gorllewin Sumatra (Indoneseg: Sumatera Barat). Mae'r dalaith yn ffurfio rhan orllewinol canolbarth ynys Sumatra. Mae'n ffinio ar dalaith Gogledd Sumatra yn y gogledd, Riau a Jambi yn y dwyrain a Bengkulu yn y de-ddwyrain. Mae'n cynnwys Ynysoedd Mentawai.
Roedd y boblogaeth yn 4,552,000 yn 2005. Y brifddinas yw Padang, ac ymysg y dinasoedd eraill mae Bukittinggi a Padang Panjang. Mae'r dalaith ar y Gyhydedd.