Un o daleithiau Indonesia yw Aceh, hefyd Nanggroë Aceh Darussalam. Mae'n ffurfio rhan fwyaf gogleddol ynys Sumatera, yn fras yr un diriogaeth a Swltaniaeth Aceh rhwng y 15g a'r 19g. Roedd y boblogaeth yn 4,031,589 yn 2005. Y brifddinas yw Banda Aceh.
Mae'r dalaith yn ffinio ar dalaith Gogledd Sumatera yn y de. Bu llawer o ymladd yma yn erbyn yr Iseldirwyr yn y cyfnod trefedigaethol, ac yn ddiweddarach datblygodd mudiad cryf yn hawlio annibyniaeth oddi wrth Indonesia, yn cynnwys gwrthryfel arfog gan GAM, (Gerakan Aceh Merdeka, "Mudiad Aceh Annibynnol"). Dioddefodd Aceh yn fwy nag unrhyw ardal arall o effethiau'r tsunami ar 26 Rhagfyr2004; er enghraifft, dinistriwyd Banda Aceh bron yn llwyr. Yn sgîl hyn, gwnaed cytundeb rhwng y cenedlaetholwyr a'r llywodraeth Indonesaidd oedd yn rhoi mesur helaeth o ymreolaeth i Aceh.
Mae bron y cyfan o'r boblogaeth yn ddilynwyr Islam.