Canolbarth Jawa
Un o daleithiau Indonesia yw Canolbarth Jawa (Indoneseg: Jawa Tengah). Mae'n ffurfio rhan ganol ynys Jawa, ac roedd y boblogaeth yn 32,864,000 yn 2009. Y brifddinas yw Semarang. Mae'r dalaith yn ffinio ar daleithiau Gorllewin Jawa yn y gorllewin a Dwyrain Jawa yn y de, tra mae Ardal Arbennig Yogyakarta yn cael ei hamgylchynu gan y dalaith. Yn y gogledd, mae'n ffinio ar Fôr Jawa ac yn y de ar Gefnfor India. Ceir nifer o losgfynyddoedd yma, yn cynnwys Mynydd Merapi a Mynydd Merbabu. Mae'r tir yn ffrwythlon, a thyfir reis ar draws ardal helaeth o'r dalaith. Mae dinasoedd y dalaith yn cynnwys Magelang, Pekalongan, Salatiga, Semarang, Surakarta a Tegal. Mae'r dalaith yn cynnwys temlau hanesyddol Borobudur a Prambanan, y ddwy ynSafle Treftadaeth y Byd. Information related to Canolbarth Jawa |