Un o daleithiau Indonesia yw Gorllewin Nusa Tenggara (Indoneseg: Nusa Tenggara Barat. Mae'n ffurfio rhan fwyaf orllewinol yr Ynysoedd Swnda Lleiaf, ac eithrio Bali, sy'n dalaith ar wahan.
Roedd y boblogaeth yn 4,015,000 yn 2005. Y ddwy ynys fawr yn y dalaith yw Lombok a Sumbawa; y briffddinas yw Mataram ar ynys Lombok.