Un o daleithiau Indonesia yw Gorllewin Jawa (Indoneseg: Jawa Barat). Mae'n ffurfio rhan o orllewin ynys Jawa. Roedd y boblogaeth yn 35,724,000 yn 2000, y boblogaeth uchaf ymhlith taleithiau Indonesia. Y brifddinas yw Bandung.
Mae'r dalaith yn ffinio ar dalaith Canolbarth Jawa yn y dwyrain ac ar dalaith Banten yn y gorllewin. Yn y gogledd, mae'n ffinio ar Fôr Jawa ac ar Ardal Arbennig Jakarta, ac yn y de mae'n ffinio ar Gefnfor India. Ffurfiwyd talaith Banten o ran o dalaith Gorllewin Jawa yn 2000.