Cyfraith Cymru

Mae'r erthygl hon yn rhan o'r gyfres:

Gwleidyddiaeth
Cymru




gweld  sgwrs  golygu

Cyfraith Gyfoes Cymru yw'r term swyddogol am y drefn gyfreithiol sy'n caniatau i Senedd Cymru greu deddfau yng Nghymru. Gelwir pob darn o ddeddfwriaeth Cymru yn 'Ddeddf Senedd Cymru'. Mae pob deddfwriaeth newydd yn cael ei hadnabod fel 'Mesur'.

Y ddeddfwriaeth Gymreig gyntaf i gael ei chynnig oedd Mesur Gwneud Iawn am Gamweddau'r GIG (Cymru) 2008, sef y tro cyntaf mewn bron i 500 mlynedd i Gymru gael ei deddfau ei hun, ers i Gyfraith Hywel gael ei diddymu, a'i disodli gan gyfraith Lloegr drwy'r Deddfau'r Cyfreithiau yng Nghymru 1536 a 1542 yn ystod teyrnasiad Harri VIII, brenin Lloegr.

Cymru'r Gyfraith

Ar 1 Ebrill 2007 dileuwyd yr hen uned gyfreithiol ddaearyddol a elwyd yn 'Gylchdro Cymru a Chaer' (Wales and Chester Circuit) - a oedd wedi bodoli ers cyfnod Y Deddfau Uno - a defnyddir yr enw 'Cylchdro Cymru'. Aeth Caer yn rhan o Gylchdro Gogledd-orllewin Lloegr. Mae hyn yn newid arwyddocaol iawn; dyma'r tro cyntaf ers amser Owain Glyndŵr i Gymru gael ei thrin fel uned gyfreithiol ynddi ei hun, yn hytrach na fel atodiad i ran o Loegr. I ddiffinio'r sefyllfa mae term newydd arall wedi'i fathu, gan y Barnwr Roderick Evans ac eraill, sef Cymru'r Gyfraith (Saesneg: Legal Wales).

Ond er bod pedair deddfwrfa yng ngwledydd Prydain, dim ond tair awdurdodaeth gyreithiol sydd:

  • Awdurdodaeth yr Alban
  • Awdurdodaeth gogledd Iwerddon a
  • Awdurdodaeth Lloegr a Chymru (nid 'Cymru a Lloegr', gyda llaw!)

Cymru, felly, yw'r unig wlad yn y bydsydd â deddfwrfa ond sydd heb awdurdodaeth ei hun. Mae sefydlu awdurdodaeth o'r fath yn ganolog i greu cenedl newydd.[1] Yn wahanol i'r Alban a Gogledd Iwerddon, ni ddatganolwyd rhai pwerau, gan eu dal yn ôl gan Senedd San Steffan, ac un o'r rhai hynny yw awdurdodaeth sengl Lloegr a Chymru.

Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru

Sefydlwyd Comisiwn Cyfiawnder yng Nghymru gan Lywodraeth Lafur Cymru i adolygu’r modd y gweithredir y system gyfiawnder yng Nghymru. Cyhoeddwyd ei adroddiad ar 24 Hydref 2019.[2] Ymhlith yr argymhellion hirdymor yr oedd:

  • Ddatganoli pwerau cyfiawnder i Gymru[3]
  • Creu "cyfreithiau Cymru" sydd ar wahân i gyfreithiau Lloegr a Chymru;
  • Adran gyfiawnder newydd yn Llywodraeth Cymru i gael ei harwain gan weinidog o'r cabinet;
  • Sefydlu uchel lys a llys apêl ei hun a barnwr o Gymru yn rhan o'r Goruchaf Lys;

Yn ogystal â'r Comisiwn, mae cyfrol swmpus yr Athro Thomas Watkin a Daniel greenberg, sef Legislating for Wales (GPC 2018) yn cefnogi'r farn bod angentrefniadaeth annibynnol ar Gymru.

Cyfeiriadau

  1. Annibyniaeth Cymru (Gwasg y Lolfa; 2020); Adroddiad Comisiwn Annibyniaeth Cymru
  2. llyw.cymru; adalwyd 4 Rhagfyr 2020
  3. https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/50151785