Calon Ci |
Dyddiad cynharaf | 1994 |
---|
Awdur | Gareth Miles |
---|
Cyhoeddwr | heb ei chyhoeddi |
---|
Gwlad | Cymru |
---|
Iaith | Cymraeg |
---|
Genre | Dramâu Cymraeg |
---|
Comedi ddychan wedi ei seilio ar nofel Mikhail Bulgakov yw Calon Ci o waith Gareth Miles. "Dameg grefyddol ydyw yn ei hanfod," yn ôl y dramodydd, "wedi ei seilio ar Fyth y Creu, fel y'i ceir yn chwedl Pygmalion ac yn hanes Gardd Eden, yn Llyfr Genesis. Mae i Calon Ci neges oesol ac yn amserol iawn yn y byd sydd ohoni: [1994] Pan wrthryfela dyn yn erbyn ei Greawdwr mae'r gosb yn ddychrynllyd ac yn anochel", ychwanega.[1] Llwyfannwyd y ddrama'n wreiddiol gan Dalier Sylw ym 1994.[2]
Crynodeb byr
Mae'r ddrama wedi ei lleoli yn y Gymru gyfoes [1994] lle mae'r Athro Owain Lawgoch Owain ar fin cyflawni arbrawf mwyaf uchelgeisiol ei yrfa sef trawsblannu ymenydd a ceilliau ci i gorff dyn. Daw o hyd i gi perffaith - Saunders, anifail anwes hen gyfaill diwylliedig, a chelain arbennig o addas - corff Bleddyn Brothen, canwr roc o Feddgelert. Mae'r canlyniad yn syfrdanol!
Cefndir
"Pan ofynnwyd imi lunio fersiwn Gymraeg o gomedi Bwlgacoff, sy'n dychanu'r ymgais ynfyd i greu cymdeithas a reolir gan anghenion pobl, yn hytrach na'r Farchnad Rydd, roedd yr Undeb Sofietaidd yn bwer byd-eang. Nid yw'n bod, erbyn hyn," eglura Gareth Miles wrth gyflwyno'r ddrama.[1]
"Mae miliynau ar filiynau o Rwsiaid ac aelodau o genhedloedd eraill, a fu am 70 mlynedd yn ochneidio dan ormes y Bolsiefiaciad, yn awr yn mwynhau breiniau Democratiaeth, gan gynnwys gwasg rydd, cyfryngau dilyffethair a'r hawl i ethol cynrychiolwyr seneddol wedi eu dethol yn ofalus, bob hyn a hyn.
Ni ellir gwadu fod y Chwyldroadau a ddymchwelodd yr Ymerodraeth Sofietaidd wedi esgor ar rai datblygiadau braidd yn annymunol - cynnydd mewn diweithdra, trais rhyng-gymunedol, dibyniaeth ar gyffuriau; cyni; tlodi ; newyn; gwrthdibyniaeth; gangsteriaeth; puteiniaeth ac yn y blaen ond "ni cheir y melys neb y chwerw" a phris bychan yw hyn i'w dalu am fendithion y Farchnad a chyflawn aelodaeth o Wareiddiad Cristnogol y Gorllewin.
Clodwiw dros ben fuasai rhoi cyfle i'r Cymry wawdio diffygion y gyfundrefn Sofietaidd tra roedd honno mewn grym. Amheuwn a ellid cyfiawnhau gwario arian cyhoedd ar brosiect o'r fath a'r bygythiad i'r Dwyrain wedi cilio (er fod y Weinyddiaeth Amddiffyn a'n Lluoedd Arfog yn dal ar eu gwyliadwriaeth). Eithr mae mwy i nofel Bwlgacoff na dychan."[1]
Ychwanegodd y cyfarwyddydd Bethan Jones :
"Cwblhaodd Bwlgacoff Собачье сердце ym 1925, ас yn dilyn darlleniadau preifat o'r nofel, comisiynwyd addasiad llwyfan gan Theatr Gelfyddydau Moscow. Yn dilyn gwaharddiad ar waith Bwlgacoff ni pherfformiwyd y ddrama nes dyfodiad 'glasnost', 60 mlynedd yn ddiweddarach. Bum yn ffodus iawn i weld y cynhyrchiad hwn gan Theatr Moscow i Wylwyr Ifanc ym 1987. Ychydig iawn o Rwsieg oedd gen i, ond cefais fy ngwefreiddio, nid yn unig gan y cynhyrchiad ond hefyd gan ymateb y gynulleidfa. Dyma oedd blynyddoedd cyntaf 'perestroika' ac roedd yr awyrgylch yn un llawn gobaith, syndod ac weithiau dryswch at yr hawl i siarad yn agored, i feirniadu ac i chwerthin ar ben unigolion a sefydliadau a fu gynt yn orthrymus neu'n uchel iawn eu parch. Mae Gareth Miles wedi benthyg stori ac ysbryd y nofel wreiddiol i greu drama newydd Gymraeg." [3]
Cymeriadau
- Yr Athro Owain Lawgoch Owain
- Saunders, Y Ci / Y Cymro Newydd
- Tresi
- Blodeuwedd ferch Efa
- Haf
- Yr Arglwydd Dwlali
- Goronwy Dee
- Cymeriadau Eraill
Cynyrchiadau nodedig
Llwyfannwyd y ddrama gan Dalier Sylw ar y cyd â Clwyd Theatr Cymru yn Ionawr-Chwefror 1994. Cyfarwyddydd Bethan Jones; cynllunydd Kate Driver;
Cafwyd adolygiad o'r ddrama yn Y Cymro ar y 19 Ionawr 1994 : "Dychan yw'r nod ac mae rhywun neu'i gilydd yn cael waldan bob yn ail frawddeg bron, yn amrywio o S4C, WDA, y gwasanaeth iechyd, gohebyddion y gellir eu prynu, y frawdoliaeth sefydliadol, gwleidyddion, rygbi Cymru, cynhyrchwyr annibynnol...a hyd yn oed rhai mathau o Gymreictod. Mae'n anodd dal i fyny weithiau wrth i began ddilyn pegan. Ond, yn syml, mewn trahaustra gwyddonol, unffurfiaeth orfodol, a geneteg arbrofol y mae danedd yr awdur, ac y mae ei neges ganolog yn un cwbl ddifrifol drwy'r chwerthin a'r doniolwch"[1]
Cyfeiriadau