Cwmni Theatr Gymraeg oedd Dalier Sylw a fu'n weithgar rhwng 1988 a 2000. Sefydlwyd y cwmni yng Nghaerdydd ym 1988 gan Bethan Jones, Peter Edwards, Siôn Eirian ac Eryl Huw Phillips, i ateb yr angen am gwmni theatr Cymraeg yn y brifddinas.[1] Datblygodd i fod yn un o'r cwmnïau theatr mwyaf blaenllaw yng Nghaerdydd, yn cyflwyno gwaith mewn lleoliadau arbennig ac yn teithio ledled Cymru. Bu'r cwmni yn flaenllaw mewn llwyfannu rhai o ddramâu newydd dramodwyr Cymraeg yn y 1990au; dramodwyr fel Meic Povey - Wyneb Yn Wyneb (1993), Fel Anifail (1995) a Tair (1998); Siôn Eirian - Epa Yn Y Parlwr Cefn (1994); Geraint Lewis - Y Cinio (1995) a John Owen a Gareth Miles.
Cefndir byr
Amcanion artistig y cwmni oedd
comisiynu dramâu a chyfiethiadau newydd gan awduron cyfoes Cymraeg
llwyfannu cynyrchiadau gweledol, heriol a dramâu testunol
datblygu gwaith dwy-ieithog.
Ymfalchïodd Dalier Sylw mewn darparu cyfleoedd cyson i ddramodwyr Cymreig gael datblygu gwaith newydd; gwaith fu'n ran blaenllaw yn y broses o ddatblygu'r theatr Gymraeg, gan ddarparu ffocws ar gyfer diwylliant Cymreig yng Nghaerdydd a thu hwnt i'r ffin.
Dathlodd y Cwmni ei ddegfed penblwydd cyn dod i ben yn 2000.[2] Gadawodd Dalier Sylw waddol hynod o werthfawr o sgriptiau cyhoeddedig Cymraeg - rhai ohonynt wedi'u cyhoeddi ar y cyd â'r CAA.
Mae'r dramodydd Meic Povey yn rhoi'r bai am derfyn y cwmni ar y penderfyniad i gyflwyno dramâu Saesneg, fel ddigwyddodd yn hanes Theatr yr Ymylon ym 1980: "Digwyddodd yr un peth i Dalier Sylw, cwmni arloesol iawn yn y nawdegau, yn llwyfannu dramâu gwreiddiol yn y Gymraeg dan arweiniad cadarn Bethan Jones. Oddeutu 2000, esblygodd yn Sgript Cymru, cwmni dwyieithog, [...] Yn sgil yr esblygiad teimlais i'r arlwy Cymraeg fynd bron yn eilbeth." [3]