Eirlys Britton

Eirlys Britton
Ganwyd1949 Edit this on Wikidata
Caerdydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethactor Edit this on Wikidata

Actores ac athrawes Gymraeg yw Eirlys Britton (ganwyd 1949). Mae'n adnabyddus am chwarae Beth yn Pobol y Cwm.

Bywyd cynnar

Cafodd ei geni yng Nghaerdydd. Mae'n chwaer i Charli Britton, cyn-ddrymiwr Edward H Dafis. Roedd yn un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Gyfun Rhydfelen, Pontypridd a graddiodd mewn Drama o Goleg y Drindod, Caerfyrddin.[1]

Gyrfa

Bu'n athrawes yn Ysgol Heol y Celyn ger Pontypridd. Yn 1980 sefydlodd Dawnswyr Nantgarw gyda chydweithwyr a staff yr ysgol ac ers hynny bu'n rhoi ei amser fel hyfforddwraig dawnsio gwerin. Yn Eisteddfod 2005 derbyniwyd hi a'i gŵr i Orsedd y Beirdd yn Urdd Derwydd er Anrhydedd am eu cyfraniad aruthrol a nodedig i hyrwyddo dawnsio gwerin.[2] Derbyniodd Fedal Goffa Syr T H Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Morgannwg 2012 am ei chyfraniad gwirfoddol yn ardal Pontypridd, yn enwedig wrth weithio gyda phobl ifanc.

Yn y 1990au gadawodd ddysgu llawn amser i bortreadu Beth James (Leyshon gynt) yn Pobol y Cwm am ddeng mlynedd rhwng 1994 a 2004.[1]. Ymddangosodd yn y ffilm Yn Gymysg Oll i Gyd ac roedd yn chwarae Pegi, mam y prif gymeriad yn y ddrama boblogaidd i bobl ifanc, Pam Fi Duw?. Yn 2016, ymddangosodd yn y ddrama wleidyddol Byw Celwydd.

Dawnsio Gwerin

Mae Eirlys Britton hefyd yn adnabyddus am ei diddordeb mewn dawnsio gwerin Cymreig. Bu'n aelod o Cwmni Dawns Werin Caerdydd ac, yna yn 1980 pan oedd yn athrawes yn Ysgol Heol y Celyn, Pontypridd, sefydlodd Dawnswyr Nantgarw.

Bywyd personol

Mae'n briod a Cliff Jones, cyfarwyddwr a chynhyrchydd teledu.[3]

Cyfeiriadau

  1. 1.0 1.1 Anrhydeddu'r hyfforddwraig dawnsio gwerin, Eirlys Britton , BBC Cymru Fyw, 16 Ebrill 2012.
  2.  I'w derbyn i'r Orsedd 2005. BBC Cymru (1 Gorffennaf 2005). Adalwyd ar 1 Chwefror 2016.
  3.  Adran Urdd Bro Taf - Athrawon. Adalwyd ar 1 Chwefror 2016.

Dolenni allanol