Ganed Cadel ar 14 Chwefror1977 yn Ysbyty Katherine, Katherine, yn Nhiriogaeth Gogleddol Awstralia, yn fab i Helen Cocks, rheolwraig banc, a Paul Evans, fforman y cyngor. Roedd hen daid Evans yn Gymro, a chafodd yr "Cadel" ar ôl tri o Frenhinoedd Cymru o'r enw Cadell.[2]
Bu'n byw yn Upper Corindi, (i'r gogledd o Coffs Harbour) Armidale, De Cymru Newydd ac yn ddiweddarach yn Plenty-Kangaroo Ground-Arthurs Creek, Victoria. Tra'n byw yn Armidale, mynychodd Newling Public School. Symudodd i Victoria pan oedd yn ei arddegau cynnar. Derbyniodd ei addysg VCE (Tystysgrif blwyddyn 12) yn Ysgol Uwchradd Eltham, Melbourne.[3]
Roedd ganddo ddiddordeb mewn nofio, pêl-droed a chriced pan oedd yn ifanc, ond mae Evans ei hun yn credu ei fod yn rhyfedd iddo ddarfod i fyny yn athletwr proffesiynol gan nad oedd siap ei gorff yn gweddu gyda'r rhan helaeth o chwaraeon ysgol Awstralia a oedd yn galw am gryn faint neu gryfder. Dechreuodd seiclo yn gystadleuol ym 1991, gan gystadlu mewn cyclo-cross a beicio mynydd. Dywedodd Evans mai ei fywyd cynnar yn tyfy i fyny yn Armidale, De Cymru Newydd, a'r ysbrydoliaeth ar gyfer ei yrfa seiclo. Rhoddodd uchder y ddinas fantais cynnar i Evans wrth gystadlu.
Yn 1994, ar awgrym ei hyfforddwr Damian Grundy, dechreuodd gystadlu mewn rasus cylchffordd a rasus ffordd er mwyn helpu gwella ei feicio mynydd. Dechreuodd ei yrfa seiclo rhyngwladol fel aelod o dîm beicio mynydd yr Australian Institute of Sport, odan arweiniaeth y hyfforddwr Heiko Salzwedel a Damien Grundy. Enillodd Evans fedalau efydd ym Mhencampwriaeth Treial Amser Iau a Beicio Mynydd Iau y Byd ym 1995, a medalau arian ym Mhencampwriaeth Beicio Mynydd Odan-23 y Byd yn 1997 ac 1999.
Wedi ymgynghori gyda Michele Ferrari ac odan reolaeth Tony Rominger, newidiodd Evans i gystadlu ar y ffordd yn llawn amser yn ystod haf 2000.[4]
2001–2005
Ers troi aty ffordd yn llawn amser, mae Evans wedi reidio dros dimau Saeco (2001), Mapei (2002) a Team Telekom (2003–2004). Yn 2005 ymunodd â Davitamon-Lotto a daeth yn wythfed ar ei dro cyntaf yn cystadlu yn y Tour de France, y reidiwr Awstralaidd cyntaf i orffen yn y deg uchaf ers Phil Anderson.
Yn 2006 a 2007, enwyd yn Seiclwr Awstralaidd y Flwyddyn.
2008
Evans oedd y ffefryn i ennill Tour de France 2008, gan nad oedd tîm Contador, sef Team Astanawedi cae leu gwahodd i'r ras. Deliodd Evans y crys melyn o gymal 10 hyd 14. Ond, yn ystod esgyniad Alpe d'Huez ar gymal 17, cymerodd Carlos Sastre o Team CSC y blaen gan gipio 2 munud a 15 eiliad oddiar Evans. Erbyn y treial amser, roedd angen i Evans reidio 1 munud a 34 eiliad yn gynt na Sastre. Curodd Sastre a neidiodd i'r ail safle, ond roedd dal 58 eiliad tu ôl iddo erbyn diwedd y Tour.
Amharwyd ar ymdrechion Evans yn Tour de France 2009 gan ddiffyg cefnogaeth gan ei dîm a diffyg siap da, a llwyddodd ond i orffen yn y 30fed safle, 45 munud tu ôl i'r enillydd, Alberto Contador. Er y siomedigaeth hyn, cafodd fuddugoliaethau yn y Critérium du Dauphiné Libéré a'r Settimana Internazionale Coppi e Bartali.
Daeth yn drydydd yn y Vuelta a España, lle gwisgodd crys aur yr arweinydd yn ystod un cymal, ond fe ddioddefodd trafferthon mecanegol yn ystod esgyniad i ddiwedd cymal ar fynydd Sierra Nevada. Gyda hyn, daeth Evans yn un o'r seiclwyr Awstralaidd mwyaf llwyddiannus, wedi iddo gael dau safle ar y podiwm yn y Tour de France. Daeth yn un o ychydig reidwyr sydd wedi dal y tri crys; y Maglia Rosa, crys arweinydd y Giro d'Italia yn 2002, crys melyn Tour de France am 4 diwrnod yn 2008, a chrys aur arweinydd y Vuelta a España yn 2009.
Enillodd Evans Bencampwriaeth Ras Ffordd y Byd yn Mendrisio, y Swistir ar 27 Medi. Wedi iddo dod yn bencampwr y byd, edrychai fel petai wedi taflu ei hun i mewn i gefnogi ei gyd-aelod tîm, Philippe Gilbert. Credai nifer fod hyn yn arwydd fod y berthynas rhwng ef a Silence-Lotto wedi gwella. Ond, ar ôl diwedd tymor rasio 2009, roedd llawer o ddyfalu yn y wasg, y byddai Evans yn chwilio am dîm newydd i'w gefnogi ar gyfer Tour 2010. Datganwyd ar 31 Hydref ei fod yn gadael y tîm i ganfod sialensau newydd.[7]
Cyhoeddwyd bywgraffiad, Cadel Evans: Close To Flying, gan Hardie Grant Books ym mis Tachwedd 2009.[8]
2010
Symudodd Evans i dîm BMC yn 2010.[9] Dilynodd llwyddiant yn fuan wedyn, gyda buddugoliaeth yn y 2010 Flèche Wallonne, a deliodd y Maglia Rosa wedi cymal 2 Giro d'Italia 2010. Enillodd Evans gymal 7 y Giro d'Italia gan sbrintio oddiar blaen grŵp bach o reidwyr. Gorffennodd yn 5ed yn y dosbarthiad cyffredinol, gan ennill dosbarthiad pwytiau'r Maglia Rosso Passione a dosbarthiad Azzurri d'Italia. Deliodd Evans hefyd y crys melyn yn ystod cymal 9 Tour de France 2010, a hynnu wrth reidio gyda toriad trwch blewyn yn ei benelin chwith, a gafodd yn ystod damwain yn y cymal gynt. Collodd llawer o amser i'r arweinwyr yn ystod cymal 9, a collodd y crys melyn a'r cyfle i gystadlu o ddifrif am y fuddugoliaeth cyffredinol. Gorffennoff yn y 26ed safle, 50 munud a 27 eiliad tu ôl i Alberto Contador.[10]
2011
Cafodd Evans gychwyn gwell i dymor rasio 2011, gan ennill cymal 6 a dosbarhiad cyffredinol y Tirreno–Adriatico, a dosbarthiad cyffredinol Tour de Romandie, mae'r ddau yn ffurfio rhan o gyfres UCI World Tour 2011. Ni gystadlodd yn y Giro d'Italia, gan ddewis yn hytrach i baratoi ar gyfer Tour de France 2011 drwy gystadlu yn y Criterium du Dauphine lle gorffennodd yn ail. Daeth Evans yn drydydd yng nghymal cyntaf y Tour, ac enillodd gymal 4, yr ail ffuddugoliaeth mewn cymal o'r Tour de France yn ei yrfa.[11] Arweiniodd gystadleuaeth brenin y mynyddoedd am un diwrnod wedi cymal 4, a gwisgodd y crys melyn wedi cymal 20 a 21. gan ddod y reidiwr Awstralaidd cyntaf erioed i ennill y Tour de France.[12]
Bywyd personol
Mae'n briod i Chiara Passerini, pianydd ac athrawes cerdd Eidalaidd. Cyfarfont ar ddiwedd 2002, wedi iddi gael ei chyflwyno iddo gan ffrind i'w thad.
Yn 2008, gwisgodd Evans grys isaf gyda Baner Tibet i gefnogi rhyddid dros Tibet.[13][14] Dywedodd:
"Trying to bring awareness of the Tibet movement is something someone in my position can do. I just feel really sorry for them. They don't harm anyone and they are getting their culture taken away from them. I don't want to see a repeat of what happened to Aboriginal culture [in Australia] happen to another culture."[14]
Canlyniadau
1993
1af Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad Awstralia – Odan 17
1994
1af Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad Awstralia – Odan 19
2il Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad y Byd – Odan 19
1995
3ydd Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad y Byd – Odan 19
3ydd Pencampwr Treial Amser y Byd – Iau
1996
1af Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad Awstralia
3ydd Pencampwr Beicio Mynydd Traws Gwlad y Byd – Odan 23