Mabwysiadwyd baner Dominica yn swyddogol ar 3 Tachwedd1978 ond mae wedi cael y nodwedd neilltuol o gael ei ailwampio dair gwaith ers hynny. Ni ddylid cymysgu baner Dominica gyda baner Gweriniaeth Dominica, sef baner y genedl sy'n rhannu ynys Hispanola gydag Haiti. I ychwanegu at y drwswch, mae'r ddau genedl wedi eu lleoli ym Môr y Caribî, ond tra bod Dominica yn gyn-drefedigaeth Brydeinig, mae Gweriniaeth Dominica yn cyn-drefedigaeth Sbaeneg.
Dyluniad a Symboliaeth
Dyluniwyd y faner wreiddiol gan y dramodydd Alwin Bully yn gynnar yn 1978 wrth i'r wlad baratoi ar gyfer annibyniaeth.[1]
Mae'r faner yn cynnwys maes werdd gyda chroes trilliw. Mae'r groes yn symbol o Gristnogaeth, sef crefydd y wladwriaeth. Mae'r groes hon yn cynnwys tri lliw (melyn, gwyn, du) sy'n cynrychioli y Drindod Sanctaidd ac mae gan bob un ohonynt ystyr:
Melyn - cynrychioli'r Haul ac amaethyddiaeth (cynhyrchu llwynau neu bananas); mae hefyd yn arwyddlun yr Indiaid cyntaf, sef yr Arawciaid a'r Carib
Gwyn - cynrychioli afonydd a ffynhonnau dwr, a phurdeb
Du - cynrychioli'r tir cyfoethog ond hefyd y boblogaeth a deilliodd o'r fasnach gaethweision. Wrth i Dominica ddiddymu caethwasiaeth yn 1833, ffodd llawer o gaethweision o ynysoedd cyfagos i'r wlad
Gwyrdd - symbol o'r llystyfiant ir
Yng nghanol y faner, ceir cylch coch gyda pharot Sisserou[2] sy'n unigryw i'r ynys ac yn cael ei chydnabod fel aderyn genedlaethol y gened. Mae'r aderyn yn brin iawn ac mewn perygl gyda dim ond oddeutu 250-300 pâr ar ôl. Mae'r aderyn yn ymgorffori'r awydd a'r ewyllys i godi mwy a mwy tuag at ddynodiad uchel. Mae ei ben, ei gwddf a'i frest yn las-fioled sy'n gwneud baner Dominica yr unig faner sy'n cynnwys y lliw porffor (ynghyd â baner dinas Malaga). Fodd bynnag, mae baner Nicaragua yn cynnwys enfys ac felly, porffor, er nad yw'r un haen o borffor. Yn ei gylch, mae lliw coch y cylch yn symbol o gyfiawnder cymdeithasol.
Mae deg seren werdd pum pwynt yn amgylchynu'r anifail. Mae pob seren yn cynrychioli un o blwyfi'r wlad.
Diwrnod y Faner
Diwrnod y faner yw 19 Hydref. Gelwir y diwrnod hefyd yn Jounen Dwapo.[1] Mae'r gair diarth yma yn dyst i'r ffaith i'r ynys am gyfod yn yr 18g fod yn drefedigaeth Ffrengig ac i CreoleFfrangeg gael ei siarad ar yr iaith. Mae'r ynys hanner ffordd rhwng ynysoedd Ffrancoffôn Guadeloupe a Martinique.
Baneri Hanesyddol
Baner
Blwyddyn
Disgrifiad
1955-1965
Yn 1956, enillodd Dominica ymreolaeth o fewn Ffederasiwn Ynysoedd Windward. Mae'r faner wedi'i seilio ar y 'Blue Ensign' 'gyda arfbais o long tair mast yn agosau at borthladd Roseau.
1965-1978
Ym 1967, daeth yn wladwriaeth cyswllt i'r Gymanwlad a dechreuodd osod cyfundrefn ddemocrataidd. Disodlwyd yr hen arfbais gan arfbais newydd y wlad.
Yn 1978, enillodd Dominica ei hannibyniaeth ac mae ei faner wedi'i man-newid sawl gwaith ers hynny.
Baner
Blwyddyn
Disgrifiad
1978–1981
Trefn lliw y bandiau yw melyn, gwyn, du. Mae'r parot yn wynebu tuag at y dde, ochr cyhwfan y faner.
1981–1988
Newidiodd trefn lliw y bandiau i felyn, du, gwyn. Mae hyn mewn cadw at Rheol Tintur gan fod yr hen gynllun gyda'r du ar y gwyrdd yn torri'r rheol tintur. Mae rhoi'r band gwyn rhwng y du a'r gwyrdd yn ei gwneud yn haws ac yn gliriach i'r lygad. Mae gan y sêr ffin felen.
1988–1990
Mae'r parot yn wynebu i'r chwith (ochr y mast, sydd yn fwy arferol mewn banereg). Mae lliwiau'r parot wedi eu newid.
1990–cyfredol
Mae ffin y sêr wedi troi'n ddu. Mae lliwiau'r parot wedi tywyllu. Maen mân-newid i gymuseredd y faner.