Mae baner Arwba neu Aruba wedi bod yn faner swyddogol ar yr ynys ers 18 Mawrth1976. Daeth Arwba yn wlad ymreolaethol o fewn Brenhiniaeth yr Iseldiroedd ar 1 Ionawr 1986 a disodolodd faner unigryw Arwba y faner gynharach a ddefnyddiwyd gan Antiliaid yr Iseldiroedd a ddefnyddiwyd yn swyddogol hyd hynny.[1] Mae 18 Mawrth yn "Ddiwrnod y Faner" ac yn ddiwrnod o wyliau cenedlaethol pan gynhelir carnifalau a dathliadau ar yr ynys.
Hanes
Cafwyd cystadleuaeth ar gyfer baner yr ynys. Derbyniwyd dros 630 o gynlluniau, a ystyriwyd 157. Adolygwyd y cynlluniau gan Bwyllgor y Faner ar 21 Ionawr 1976, a oedd yn cynnwys Julio Maduro, Epi Wever a Roland Donk. Chwiliwyd am y faner heb faneri eraill na llythyrau nac oedd yn anodd ei weld. Roedd y faner fuddugol i fod yn hawdd eu gwneud a'u tynnu, gyda digon o liwiau cyferbyniol ac yn faner nodedig a hawdd ei hadnabod. Roeddent hefyd am symbolaeth a lliwiau'r faner i gynrychioli hanes a diwylliant Aruba.
Ar 6 Mawrth 1976, dewisodd Pwyllgor y Faner ddau neu dri cais gellid eu hystyried yn faner newydd. Gofynnwyd i'r arbenigwraig ar faneri o'r UDA, Sarah Bollinger, roi barn a chyngor hefyd. Awgrymwyd dewis baner newydd oedd yn cyfuno nifer o'r cynlluniau a dderbynwyd.
Codwyd y faner yn swyddogol am y tro cyntaf ar dyddd Iau 18 Mawrth, 1976 ym mhrifddinas yr ynys, Oranjestad. Ar yr un diwrnod cyflwynwyd anthem genedlaethol newydd Arwba, " Aruba Dushi Tera " yn gyhoeddus am y tro cyntaf hefyd. Dewiswyd y dyddiad gan mai ar 18 Mawrth 1948 y cydnabyddodd yr Iseldiroedd hawl Arwba i hunanlywodraeth o fewn Teyrnas yr Iseldiroedd.
Dyluniad a Cymesuredd
Mae'r baner yn bennaf las golau, sy'n symboli'r môr a'r awyr. Mae'r seren bedwar pwynt yn cynrychioli'r ynys ei hun a'r pedwar iaith a siaredir (Sbaeneg, Papiamento, Iseldiroedd a Saesneg); Mae'r ddwy streip melyn yn statws arbennig â'r twristiaeth a'r diwydiant. Mae'r ffin wyn o gwmpas y seren yn golygu bod y seren yn sefyll allan yn fwy ac yn symboli'r syrffio o'r tonnau.
Mae uchder y seren yn 1/3 o led y faner.
Cymuseredd y faner yw 2: 3. Noda gwefan llwyodraeth Aruyba fod y cymuseredd oddeutu 1: 2.
Yn ôl gwefan Llywodraeth Arwba ar hunaniaeth y faner: "The Aruba flag contains four colors: bright yellow, blossom blue, British flag red and white. red depicts the love of every inhabitant of Aruba for his country and the old "brazilian wood" industry, and white symbolizes the sand of white sand and the heart of the Aruba people who are always seeking justice, order, and freedom. The star depicts the island itself, surrounded by a beautiful blue sea, and the horizontal yellow stripes indicate a separate position on the island of the Kingdom of the Netherlands. "
Lliwiau
Glas golau (PMS 300C) tebyg i las baner y Cenhedloedd Unedig. Mae'r coch y 'goch Brydeinig' (PMS 032C). Lliw y melyn yw 'melyn baner' (PMS 109C, baner bynting).
Baneri y Llywodraethwr
Mae gan lywodraethwr Aruba ei faner ei hun. Mae cynnwys maes gwyn gyda strip llorweddol coch, gwyn a glas (lliwiau baner yr Iseldiroedd) ar y brig a'r gwaelod. Mae lled pob stribed yn 1/12 o led y faner. Yng nghanol y faner ceir cylch cefndir glas gyda baner Aruba arni. Diamedr yr arwyddlun yma yw 5/12 o led y faner. Y tu mewn i'r cylch ceir seren goch pedwar pig gyda ffin gwyn a dwy streipen melyn o faner Aruba.
Sefydlwyd y faner hon ar 29 Hydref 1985 a'i gyflwyno ar 1 Ionawr 1986.
Bu disgwyl y byddai Arwba yn datgan annibyniaeth lawn o'r Iseldiroedd yn yr 1990au, ond ddigwyddod hyn ddim. Mae'r ynys yn parhau i fod yn hunanlywodraethol ond yn rhan o Deyrnas yr Iseldiroedd.
Baner 1959-1986
Tan 1986 roedd Aruba yn rhan o Antilles yr Iseldiroedd - casgliad o ynysoedd trefedigaethol yr Iseldiroedd yn y Caribî a ddaeth yn hunanlywodraethol o fewn Teyrnas yr Iseldiroedd. Roedd gan y faner yma chwe seren - pob seren yn cynrychioli ynys oedd yn rhan o gymuned Antilles yr Iseldiroedd. Ar ôl dyfarnu statws ar wahân ar gyfer Aruba, tynnwys un seren o'r faner. Bellach, pump seren sydd ar faner Antilles yr Iseldiroedd, nid y chwech blaenorol.