Baner Swrinam

Baner Swrinam
Enghraifft o:baner cenedlaethol Edit this on Wikidata
Lliw/iaugwyrdd, gwyn, coch, melyn Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu25 Tachwedd 1975 Edit this on Wikidata
Genrehorizontal triband Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner Swrinam
Baner Swrinam

Mae baner Swrinam yn cael ei ffurfio gan bum band llorweddol o led gwyrdd (uchaf, lled dwbl), gwyn, coch (lled pedwar troedfedd), gwyn a gwyrdd (lled dwbl). Mae seren fawr, melyn, pum pwynt wedi'i ganoli yn y band coch. Cymuseredd y faner yw 2:3.

Mabwysiadwyd y faner ar 25 Tachwedd 1975, ar annibyniaeth Swrinam (gwlad yn Ne America) o'r hen wlad drefediogaetho, yr Iseldiroedd. Mae'r seren yn cynrychioli undod pob grŵp ethnig, mae'r stripe coch yn sefyll am gynnydd a chariad, y gwyrdd ar gyfer gobaith a ffrwythlondeb, a'r bandiau gwyn ar gyfer heddwch a chyfiawnder.

Baner cyn 1975

Roedd y faner cyn-annibyniaeth a fabwysiadwyd ym 1959 yn cynnwys pum sêr lliw wedi'u cysylltu gan elíps. Roedd y sêr lliw yn cynrychioli'r grwpiau ethnig mawr sy'n cynnwys y boblogaeth Swrinam: yr Amerindiaid gwreiddiol, yr Ewropeaid a'u trechodd, yr Affricanaidd a ddaeth fel caethweision i weithio ym mhlanhigfeydd, a'r Indiaid Dwyrain, Javanaidd a Tsieineaidd a ddaeth yn weithwyr taeog i ddisodli'r Affricanaidd oedd wedi dianc o gaethwasiaeth ac ymgartrefu yn y fforest. Roedd yr elipse yn cynrychioli'r berthynas gytûn ymhlith y grwpiau.[1] Roedd baner hefyd i'w ddefnyddio gan y Llywodraethwr, yn seiliedig ar y faner genedlaethol.

Noder bod baner y Llywodraethwr (ar ran yr Iseldireodd) rhwng 1959-1975, yn gwneud defnydd o liwiau baner yr Iseldiroedd - coch, gwyn a glas.

Oriel

[2] Ceir hefyd faner a ddefnyddir gan y Llywodraethwr sydd wedi ei seilio ar y faner genedlaethol.

Baner Debyg

Baner annibyniaethol Guadeloupe (UPLG)

Mae rhai o gefnogwyr annibyniaeth ynys Guadeloupe yn y Caribî sydd am ennill annibyniaeth o Ffrainc yn arddel baner Guadeloupe sy'n debyg i faner gyfredol Swrinam. Mae baner cefnogwyr yr UPLG (Union populaire pour la libération de la Guadeloupe) yn defnyddio'r un lliwiau a'r seren ond mewn cymesuredd gwahanol. Nid yw hwn yn faner swyddogol ar yr ynys.

Cyfeiriadau

Dolenni allanol

Eginyn erthygl sydd uchod am Swrinam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.