Baner Guadeloupe

Baner Guadeloupe
Delwedd:Flag of France.svg, Flag of Guadeloupe (Local).svg
Enghraifft o:baner endid gweinyddol o fewn un wlad Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Locally used unofficial flag of Guadeloupe
Y faner answyddogol lleol
Baner Ffrainc - unig faner swyddogol Guadeloupe

Mae Guadeloupe, yn rhanbarth a departement dramor o Ffrainc sydd wedi ei lleoli yn y Caribî. O'r herwydd, nid oes ganddi faner swyddogol ryngwladol ac, yn hytrach, y tricoloure, baner Ffrainc yw ei baner swyddogol.[1] Serch hynny, defnyddir logo'r rhanbarth ar lain wen fel baner i'r ynys yn yr yn modd ag y gwneir gyda baner Mayotte a Réunion - er, nad yw'r rhain, o ran rheolau baneryddiaeth yn faneri. Mae'r logo yma yn dangos haul ac aderyn diraethol ar sgwâr werdd a las gyda'r arysgrifiad, REGION GUADELOUPE mewn melyn - a gyda hynny yn torri Rheol Tintur Humphrey Lhuyd o beidio rhoi "metal ar fetal".

Baneri Eraill

Defnyddir baner answyddogol, sydd wedi ei seilio ar arfbais prifddinas Guadeloupe, Basse-Terre sef llain ddu neu goch gydag haul felen heraldaidd (tebyg i 'haul Mai' ar faner yr Ariannin a baner Wrwgwái a choesyn siwgwr werdd a streipen las gyda'r blodyn fleurs-de-lis (sy'n symbol Ffrancoffôn) ar y brig.

Baneri Annibyniaethol

Defnyddiwyd baneri annibyniaethol oedd yn hepgor y cyswllt symbolaidd â Ffrainc mgis y fleur-de-lis gan fudiadau cenedlaetholaidd Front de Libération Nationale de la Guadeloupe (FLNG) a'r Groupement des Organizations Nationalistes Guadeloupéennes (GONG). Roedd y mudiadau yma'n defnyddio baner wedi ei seilio ar faner Ciwba (fel mae baner annibyniaethol Catalwnia).

Mae mudiadau pro-annibyniaeth arall l'Union populaire pour la libération de la Guadeloupe yn arddel baner genedlaethol debyg i faner Swrinam, y cyn-drefedigaeth i'r Iseldiroedd yn Ne America. Mae i'r faner yr un lliwiau ond bod cymuseredd y streipiau'n wahanol a'r seren aur yn maner Guadeloupe yn agos i'r mast (hoist) tra bod un Swrinam yng nghanol y faner.

Oriel

Cyfeiriadau

  1. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-10-07. Cyrchwyd 2019-01-22.

Dolenni allanol