Anifail asgwrn-cefn gydag adenydd, pig, plu, dwy goes a gwaed cynnes yw'r aderyn (lluosog adar). Mae bron pob aderyn yn gallu hedfan, mae adar dihediad yn cynnwys yr estrys, y ciwïod, y pengwiniaid, a.y.y.b. Ceir mwy na 10,400 o rywogaethau o adar.[1] Maen nhw'n byw mewn llawer o gynefinoedd gwahanol ledled y byd. Adareg yw astudiaeth adar.
Anatomi
O gymharu â fertebratau eraill, mae gan adar strwythur corff sy'n dangos llawer o ymaddasiadau anarferol, yn bennaf i hwyluso hedfan. Mae eu coesau blaen wedi newid i adenydd. Mae gan adar big ysgafn heb ddannedd ac mae codennau aer tu fewn i'w hesgyrn.
Atgenhedliad
Mae adar yn dodwy wyau â phlisgyn caled. Mae'r rhan fwyaf o adar yn gwneud nyth lle maen nhw'n deor eu hwyau. Mae rhai adar yn cael eu geni'n ddall a noeth. Mae adar eraill yn gallu gofalu amdanynt eu hunain bron ar unwaith.
Mudiad
Mae llawer o rywogaethau yn mudo er mwyn dianc rhag tywydd oer. Mae miliynau o adar sy'n nythu yn Hemisffer y Gogledd yn mudo i'r de. Mae rhai adar Hemisffer y De yn mudo i'r gogledd. Mae Môr-wennol y Gogledd yn hedfan ymhellach nag unrhyw aderyn arall o'r Arctig i'r Antarctig.
Esblygiad
Esblygodd adar o'r theropodau, h.y. deinosoriaid deudroed sawrisgiaidd cigysol o'r isurdd Therapoda, mae'n debyg. Yr archeopterycs yw'r adar ffosiledig henaf a fu fyw tua 150 miliwn o flynyddoedd yn ôl.
Adar a dyn
Mae adar yn ffynhonnell bwysig o fwyd i bobl. Mae rhai adar fel yr iâr a'r twrci wedi eu ffermio ar gyfer eu cig neu wyau. Anifeiliaid anwes poblogaidd yw rhai adar e.e. y byji a'r caneri.
Mae llawer o adar wedi eu peryglu oherwydd hela a dinistr amgylcheddol. Mae elusennau fel Cymdeithas Audubon yn yr Unol Daleithiau a’r RSPB yn y DU yn ymgyrchu i amddiffyn adar.
Mewn llenyddiaeth Gymreig
Efallai'r cyntaf i gofnodi rhai o'r adar a welodd ar ei deithiau oedd Gerallt Gymro. Nid oedd ganddo ryw lawer o ddiddordeb ynddynt ond mae rhai o'r sylwadau'n ddigon diddorol, serch hynny, e.e.
"Clywir yn y coed cyfagos chwibaniad pereiddlais aderyn bach, y dywedodd rhai mai cnocell y coed ydoedd, ond eraill, yn fwy cywir, mai peneuryn. Cnocell y coed y gelwir yr aderyn bach, yr hwn a alwyd pic yn yr iaith Ffrangeg, a dylla'r dderwen â'i ylfin cryf ... A pheneuryn y gelwir aderyn bach hynod am ei liw euraid a melyn, a ddyry, yn ei dymor priodol, yn lle cân, chwibaniad melys; ac oddi wrth ei liw euraid y derbyniodd ei enw, peneuryn."[2]
Mae'n debygol iawn mai'r euryn (golden oriole) oedd yr aderyn a glywodd Gerallt neu, fel y tybiai ei gyfeillion, cnocell werdd.
Un o gerddi mwya'r Gymraeg ydy cywydd i'r "Alarch" gan Dafydd ap Gwilym. Ceir hefyd nifer o hen benillion sy'n sôn am adar; dyma un, er enghraifft:
- Gwyn eu byd yr adar gwylltion,
- Hwy gânt fynd i'r fan a fynnon',
- Weithiau i'r môr ac weithiau i'r mynydd,
- A dod adref yn ddigerydd.
Yn y Mabinogi fe drowyd Blodeuwedd yn dylluan am gamfihafio.
Dosbarthiad
Urddau
Palaeognathae
Neognathae
Galloanserae
Neoaves
- Gaviiformes: trochyddion
- Podicipediformes: gwyachod
- Procellariiformes: albatrosiaid, adar drycin a phedrynnod
- Sphenisciformes: pengwiniaid
- Pelecaniformes: pelicanod, mulfrain, huganod a.y.y.b.
- Ciconiiformes: crehyrod, ciconiaid a.y.y.b.
- Phoenicopteriformes: fflamingos
- Falconiformes: adar ysglyfaethus
- Gruiformes: rhegennod, garanod a.y.y.b.
- Charadriiformes: rhydwyr, gwylanod, môr-wenoliaid a charfilod
- Pteroclidiformes: ieir y diffeithwch
- Columbiformes: colomennod, dodo
- Psittaciformes: parotiaid
- Cuculiformes: cogau, twracoaid
- Strigiformes: tylluanod
- Caprimulgiformes: troellwyr a.y.y.b.
- Apodiformes: gwenoliaid duon, adar y si
- Coraciiformes: gleision y dorlan, rholyddion, cornylfinod a.y.y.b.
- Piciformes: cnocellod, twcaniaid a.y.y.b.
- Trogoniformes: trogoniaid
- Coliiformes: colïod
- Passeriformes: adar golfanaidd neu adar clwydol
Teuluoedd
Teuluoedd
Yn ôl IOC World Bird List ceir 240 teulu (Mawrth 2017):
Rhestr Wicidata:
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
{{
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Cyfeiriadau
Gweler hefyd
Dolenni allanol