Tiriogaeth dramor y Deyrnas Unedig yn ne Cefnfor Iwerydd yw De Georgia ac Ynysoedd Sandwich y De (South Georgia and the South Sandwich Islands). Mae'r diriogaeth yn cynnwys ynys fawr De Georgia ynghyd â chadwyn o ynysoedd llai, Ynysoedd Sandwich y De, tua 520 km i'r de-ddwyrain. Mae gan yr ynysoedd fynyddoedd serth a llawer o rewlifau.[1] Mae ganddynt boblogaethau mawr o adar a morloi.[1]
Ymwelodd James Cook â'r ynysoedd ym 1775.[2] Dros y ddwy ganrif ganlynol, daeth yr ynysoedd yn ganolfan bwysig i hela morloi a morfilod.[2] Heddiw, mae gan Dde Georgia ddwy orsaf ymchwil ac amgueddfa.[2]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol