Arian breiniol y Deyrnas Unedig a dibyn-wledydd y Goron yw'r bunt sterling. Ei chôd ISO 4217 yw GBP (nid "UKP").
Mae symbol y bunt, £/₤, yn deillio o'r Lladin libra, pwys (o arian). Mae cant o geiniogau yn gyfwerth ag un bunt.
Wedi'r Ddoler Americanaidd a'r Ewro, y bunt yw'r arian sy'n cael ei ddefnyddio mwyaf mewn masnach.
Gweler hefyd
Dolenni allanol