BaltwyrMap o'r llwythau Baltig, tua'r flwyddyn 1200. Dangosa'r Baltwyr Dwyreiniol mewn lliwiau brown a'r Baltwyr Gorllewinol mewn lliwiau gwyrdd. |
Ardaloedd gyda niferoedd sylweddol |
---|
Latfia, Lithwania |
Ieithoedd |
---|
Ieithoedd Baltig |
Grŵp ethno-ieithyddol Indo-Ewropeaidd yw'r Baltwyr sy'n siarad y ieithoedd Baltig ac sy'n byw yng ngogledd-ddwyrain Ewrop ger Môr y Baltig. Y Latfiaid a'r Lithwaniaid yw'r ddwy genedl Faltig sy'n goroesi.
Ymsefydlodd pobl yn gyntaf ar arfordiroedd de-ddwyrain y Baltig yn yr oes gynhanesyddol, a gellir olrhain y Baltwyr yn ôl i tua 1800 CC. Yn ystod yr Henfyd fe'u galwyd yn Aesti. Defnyddir yr enw "Baltwyr" arnynt ers y 19eg ganrif.[1]
Yn hanesyddol roedd grwpiau eraill o Faltwyr, yn ogystal â'r Latfiaid a'r Lithwaniaid: y Jatfiaid, a gafodd eu cymhathu â'r Lithwaniaid a'r Slafiaid yn y 16g a'r 17g; y Prwsiaid, a gafodd eu cymhathu â'r Almaenwyr yn y 18g; y Cwriaid, a gafodd eu cymhathu â'r Latfiaid yn yr 16g; y Semigaliaid; a'r Seloniaid, a ddiflanodd yn y 14g.[2] Roedd y Baltwyr yn baganiaid ac yn enwog am wrthod Cristnogaeth am amser hir, a ni throdd y Lithwaniaid yn Gristnogion tan 1386.[1]
Er bod Estonia yn un o'r gwledydd Baltig (ynghyd â Latfia a Lithwania), nid yw'r Estoniaid yn Faltwyr. Yn hytrach, Balto-Ffiniaid ydynt.
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Mackenzie, John M. Peoples, Nations and Cultures: An A-Z of the Peoples of the World, Past and Present (Weidenfeld & Nicolson, Llundain, 2005), t. 291.
- ↑ (Saesneg) Balt (people). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Awst 2014.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: Cwriaid, Jatfiaid o'r Saesneg "Curonians/Cours/Kurs, Yotvingians/Jatvians/Jatvingians". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.
|
Grwpiau ethno-ieithyddol Ewrop |
---|
Indo-Ewropeaid | | |
---|
| |
---|
| Germaniaid Gorllewinol | |
---|
Germaniaid Gogleddol | |
---|
|
---|
| Ibero-Romáwns | |
---|
Ocsitano-Romáwns | |
---|
Galo-Romáwns | |
---|
Rhaeto-Romáwns | |
---|
Galo-Italaidd | |
---|
Italo-Dalmataidd | |
---|
Romáwns Dwyreiniol | |
---|
Arall | |
---|
|
---|
| Slafiaid Gorllewinol | |
---|
Slafiaid Dwyreiniol | |
---|
Slafiaid Deheuol | |
---|
|
---|
Eraill | |
---|
|
---|
Wraliaid | |
---|
Pobloedd Tyrcig | |
---|
Unigyn iaith | |
---|
|