Un o daleithiau yr Iseldiroedd yw Zuid-Holland ("De Holland"). Saif yng ngorllewin y wlad, ger yr arfordir. Mae'r dalaith yn un o'r tiriogaethau mwyaf diwydiannol yn y byd, a'r dwysder poblogaeth ymhlith yr uchaf. Roedd y boblogaeth yn 3.46 miliwn yn 2006, gan wneud Zuid-Holland y fwyaf o daleithiau'r Iseldiroedd o ran poblogaeth.
Mae'n ffinio ar Zeeland yn y de, Noord-Brabant yn y de-ddwyrain a Gelderland ac Utrecht yn y dwyrain. Yn y gogledd mae'n ffinio ar Noord-Holland, tra mae'r môr ar yr ochr orllewinol. Hyd 1840 roedd Zuid-Holland a Noord-Holland yn un dalaith, Holland.
Dinasoedd
Y ddinas fwyaf yn y dalaith yw Rotterdam, sy'n un o bothladdoedd pwysicaf Ewrop; tra mae prifddinas y dalaith, Den Haag, hefyd yn brifddinas llywodraeth yr Iseldiroedd ac yn gartref i'r llys cyfiawnder rhyngwladol. Dinasoedd pwysig eraill yw Dordrecht, Delft, Leiden, Alphen aan den Rijn a Gouda.