Un o daleithiau yr Iseldiroedd yw Flevoland. Hi yw'r ieuengaf o ddeuddeg talaith yr Iseldiroedd, oherwydd crewyd y dalaith o'r tir a enillwyd trwy sychu rhan o'r Zuiderzee, gan gynnwys y cyn-ynysoedd Urk a Schokland.
Ceir dwy ran i'r dalaith: y Noordoostpolder, sy'n barhad o'r tir mawr, a'r Flevopolder, ynys wneuthuriedig fwyaf y byd. Cysylltir y Flevopolder a'r tir mawr gan bontydd a chob, yr Houtribdijk. Ar gyfartaledd, mae'r dalaith bum medr islaw lefel y môr. Y brifddinas yw Lelystad, ac ymhlith y dinasoedd eraill mae Almere a Dronten.