Talaith yn nwyrain yr Iseldiroedd yw Overijssel. Caiff ei henw o Afon IJssel, sy'n ffurfio'r ffîn rhwng Overijssel a thalaith Gelderland yn y de a'r de-orllewin. Yn y gogledd, mae Overijssel yn ffinio ar dalaith Drenthe, yn y dwyrain ar yr Almaen, yn y gorllewin ar dalaith Flevoland ac yn y gogledd-orllewin ar dalaith Fryslân. Prifddinas y dalaith yw Zwolle. Ymhlith dinasoedd eraill y dalaith mae Enschede.