Yn y gogledd mae Noord-Brabant yn ffinio ar daleithiau Zuid-Holland a Gelderland, yn y gorllewin ar Zeeland, yn y dwyrain ar Limburg, ac yn y de ar ddwy o daleithiau Gwlad Belg, Antwerpen a Limburg. Mae'n un o daleithiau mwyaf yr Iseldiroedd o ran arwynebedd; dim ond Gelderland sy'n fwy. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 2,415,945.