Crëwyd etholaeth Senedd Cymru Ynys Môn yn 1999, gyda'r un ffiniau ac etholaeth seneddol o'r un enw, a'r un ffiniau a Sir Fôn.
Crëwyd rhanbarth Gogledd Cymru yn ystod yr etholiad cynulliad cyntaf hefyd yn 1999, ac ers 2007 mae hi wedi cynnwys etholaethau Aberconwy, Alun a Glannau Dyfrwy, Arfon, De Clwyd, Dyffryn Clwyd, Gorllewin Clwyd, Delyn, Wrecsam ac Ynys Môn.
Hanes
Yn Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 1999, yr etholiad cyntaf i'r Cynulliad, enillwyd y sedd gan Ieuan Wyn Jones, a ddaeth yn arweinydd Plaid Cymru rhwng 2000 a 2012. Ar yr 20fed o Fehefin, 2013, ymddiswyddodd Ieuan Wyn Jones, i achosi isetholiad a gynhaliwyd ar y 1af o Awst. Enillwyd yr isetholiad yn gyfforddus gan Rhun ap Iorwerth gyda mwyafrif o dros 9000 o bleidleisiau. Yn yr etholiad Cynulliad canlynol, daliwyd y sedd eto gan Rhun ap Iorwerth gyda mwyafrif tebyg.
Pleidleisio
Mewn etholiadau Senedd, mae gan bob pleidleisiwr ddwy bleidlais: un ar gyfer ymgeisydd i fod yn Aelod o'r Senedd dros yr etholaeth, a'r llall ar gyfer rhestr pleidiol o ymgeiswyr rhanbarthol. Defnyddir Dull d'Hondt ar gyfer dyrannu seddi rhanbarthol, gan ystyried canlyniadau'r etholaethau yn y rhanbarth.