Is-etholiad Ynys Môn, 2013

Is-etholiad Ynys Môn, 2013
Mathis-etholiad Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlady Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyfnod28 Chwefror 2013 Edit this on Wikidata

Cynhaliwyd Is-etholiad Ynys Môn, 2013 ar ddydd Iau y 1af o Awst 2013 er mwyn ethol aelod y cynulliad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru[1] yn dilyn ymddiswyddiad Ieuan Wyn Jones (Blaid Cymru)ar 20 Mehefin y flwyddyn honno.[2] Enillodd ymgeisydd newydd y blaid, Rhun ap Iorwerth y sedd gyda gogwydd o +16.82%.[3][4]

Dyma drydedd is-etholiad y Cynulliad ers ei sefydlu yn 1999, a'r cyntaf ers tros 7 mlynedd.

Cyn yr is-etholiad roedd Y Blaid Lafur yn dal union hanner y seddi yn y Cynulliad, ac mae'r cydbwysedd yma wedi'i gadw. Pe tae'r Blaid Lafur wedi ennill, yna byddai ganddynt fwyafrif o aelodau. Golyga hyn y bydd yn rhaid i Carwyn Jones, drafod gyda'r pleidliau eraill os yw am newid deddfau.

Y canlyniadau

Enwebwyd a chofrestwyd chwech ymgeisydd ar gyfer yr etholiad hwn.[5][6]

Is-etholiad Ynys Môn, 2013
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Rhun ap Iorwerth 12,601 58.24 +16.8
Llafur Tal Michael 3,435 15.88 -10.3
UKIP Nathan Gill 3,099 14.32 N/A
Ceidwadwyr Neil Fairlamb 1,843 8.52 -20.7
Llafur Sosialaidd Kathrine Jones 348 1.61 N/A
Rhyddfrydwyr Democrataidd Stephen Churchman 309 1.43 -1.8
Mwyafrif 9,166 42.3 +30.3%
Nifer pleidleiswyr 21,635
Plaid Cymru cadw Gogwydd 13.58%
o Lafur i Blaid Cymru

Canran y bleidlais

Gofal: mae'r siart hwn ar fersiwn Beta!

     Plaid Cymru (58.24%)     Llafur (15.88%)     UKIP (14.32%)     Ceidwadwyr (8.52%)     Llafur Sosialaidd (1.61%)     Rhyddfrydwyr (1.43%)     Other (-4.4408920985006E-15%)

Cyn yr etholiad

Dyma'r sefyllfa fel oedd cyn yr etholiad hwn:

Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2011: Ynys Môn[7]
Plaid Ymgeisydd Pleidleisiau % ±%
Plaid Cymru Ieuan Wyn Jones 9,969 41.4 +1.7
Ceidwadwyr Paul Williams 7,032 29.2 +16.2
Llafur Cymreig Joe Lock 6,307 26.2 +8.8
Rhyddfrydwyr Democrataidd Rhys Taylor 759 3.2 −0.2
Mwyafrif 2,937 12.2
Nifer pleidleiswyr 24,067 48.6
Plaid Cymru cadw Gogwydd {{{swing}}}

Cyfeiriadau

  1. http://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-politics-23072242
  2. http://www.assemblywales.org/newhome/new-news-fourth-assembly.htm?act=dis&id=247249&ds=6/2013[dolen farw]
  3.  Plaid Cymru yn ennill Ynys Môn. BBC Cymru (1 Awst 2013). Adalwyd ar 2 Awst 2013.
  4.  Plaid Cymru's emphatic Ynys Mon by-election win. BBC (2 Awst 2013). Adalwyd ar 2 Awst 2013.
  5. "Ynys Mon by-election: Six names put forward for poll". BBC News online. 5 Gorff. 2013. Check date values in: |date= (help)
  6. "copi archif" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2016-03-03. Cyrchwyd 2013-08-03.
  7. "Wales elections". BBC News. BBC. 6 Mai 2011. Cyrchwyd 6 Mai 2011.