Sefydliad rhyngwladol yw Sefydliad Diogelwch a Chydweithrediad Ewrop (OSCE; Saesneg: Organization for Security and Co-operation in Europe). Ei waith yw rhybydd cynnar, atal gwrthdaro, goruchwyliaeth argyfwng ac ailsefydlu ar ôl gwrthdaro yn Ewrop.
Sefydlwyd yr OSCE ym 1973 fel Cynhadledd ar gyfer Diogelwch a Chydweithrediad yn Ewrop (CSCE). Roedd dadl am gael sefydliad diogelwch yn Ewrop wedi cychwyn yn y 1950au, ond roedd hi'n anodd dod i benderfyniad oherwydd y Rhyfel Oer.
Er hynny, dechreuwyd y CSCE yn Helsinki, y Ffindir ar 3 Gorffennaf, 1973 ac anfonodd 35 o wledydd gynrychiolwyr. Yn ystod y gynhadledd, a barhaodd am 5 diwrnod, cytunodd pawb i ddilyn y "Llyfr Glas", adroddiad yn cymeradwyo proses y dadl. Cafwyd yr ail gynhadledd yng Ngenefa. Dechreuodd ar 18 Medi, 1973 a goffen ar 21 Gorffennaf 1975. Yn ystod y drydedd gynhadledd, o 30 Gorffennaf hyd 1 Awst 1975, arwyddodd y gwledydd a fu'n bresennol Cytundeb Terfynol Helsinki (Helsinki Final Act).
Cafwyd sawl cynhadledd ar ôl hynny. Y pwysicaf oedd cynadleddau Beograd (4 Hydref 1977 - 8 Mawrth 1978), Madrid (11 Tachwedd, 1980 - 9 Medi, 1983), a Vienna (4 Tachwedd 1986 - 19 Ionawr 1989).
Golygodd cwymp comiwnyddiaeth yn nwyrain Ewrop a'r USSR rôl newydd i'r CSCE. O ganlyniad, arwyddwyd Siarter Paris dros Ewrop Newydd (Paris Charter for a New Europe) ar 21 Tachwedd, 1990, a newidiwyd enw'r sefydliad i OSCE ar 1 Ionawr, 1995.
Cafwyd cynhadledd OSCE yn Istanbwl ar 19 Tachwedd, 1999 er mwyn datrys problemau'r anghydfod yn Chechnya a derbyn Siarter Diogelwch Ewrop (Charter for European Security).