Robert Cecil, iarll 1af Salisbury |
---|
|
Ganwyd | 1 Mehefin 1563 Westminster |
---|
Bu farw | 24 Mai 1612 o canser Marlborough |
---|
Man preswyl | Hatfield House |
---|
Dinasyddiaeth | Teyrnas Lloegr |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | gwleidydd |
---|
Swydd | Aelod Seneddol yn Senedd Lloegr, Lord High Treasurer, Arglwydd y Sêl Gyfrin, Canghellor Dugiaeth Caerhirfryn, aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Member of the 1584-85 Parliament, Member of the 1586-87 Parliament, Member of the 1589 Parliament, Member of the 1593 Parliament, Member of the 1597-98 Parliament, Aelod o Senedd 1601, Argwydd Raglaw Dorset |
---|
Tad | William Cecil |
---|
Mam | Mildred Cooke |
---|
Priod | Elizabeth Brooke |
---|
Plant | William Cecil, Catherine Cecil, Frances Cecil |
---|
Llinach | ceciliaid Allt-yr-ynys |
---|
Gwobr/au | Urdd y Gardas |
---|
Y Gwir Anrhydeddus Iarll Salisbury KG PC |
---|
Iarll Salisbury gan John de Critz yr Hynaf ca. 1602 |
|
Arglwydd Uwch-Drysorydd |
---|
Yn ei swydd 4 Mai 1608 – 24 Mai 1612 |
Teyrn | Iago I |
---|
Rhagflaenwyd gan | Iarll Dorset |
---|
Dilynwyd gan | Comisiynydd y Trysorlys Henry Howard, iarll 1af Northampton, Arglwydd Cynta'r Drysorlys |
---|
Lord Privy Seal |
---|
Yn ei swydd 1598–1612 |
Teyrn | Elizabeth I Iago I |
---|
Rhagflaenwyd gan | Yr Arglwydd Burghley |
---|
Dilynwyd gan | Henry Howard, iarll 1af Northampton |
---|
Canghellor dugiaeth Lancaster |
---|
Yn ei swydd 8 Hydref 1597 – 1599 |
Teyrn | Elizabeth I |
---|
Ysgrifennydd Gwladol |
---|
Yn ei swydd 5 Gorff. 1596 – 24 Mai 1612 |
Teyrn | Elizabeth I Iago I |
---|
Rhagflaenwyd gan | William Davison |
---|
Dilynwyd gan | John Herbert |
---|
|
Manylion personol |
---|
Ganwyd | Robert Cecil (1563-06-01)1 Mehefin 1563 Llundain |
---|
Bu farw | 24 Mai 1612(1612-05-24) (48 oed) Marlborough, Wiltshire Lloegr |
---|
Priod | Elizabeth Brooke |
---|
Perthnasau | Arlwydd Burghley (Tad) |
---|
Cartref | "Hatfield House" |
---|
Alma mater | Coleg Sant Ioan, Caergrawnt |
---|
Roedd Robert Cecil, iarll 1af Salisbury (1 Mehefin 1563? – 24 Mai 1612) yn weinyddwr ac yn wleidydd o Loegr ac yn ail fab i William Cecil, barwn Burghley a'i wraig Mildred Cooke, ac roedd o linach Cymreig. Ei frawd hynaf Thomas Cecil, iarll 1af Exeter, a etifeddodd cartre'r teulu, ond gan Robert oedd y gallu a'r crebwyll gwleidyddol. Roedd yr athronydd Francis Bacon yn gefnder cyntaf iddo.
Gŵr bychan ydoedd o ran corff, ac roedd yn gefngrwm. Derbyniodd wawd drwy ei oes a galwai Elisabeth I, brenhines Lloegr ef yn "my pygmy" a "my little beagle" oedd llysenw Iago, brenin Lloegr a'r Alban arno. Er ei anabledd, ef, y brawd ieuanc, a etifeddodd allu gwleidyddol ei dad. Nododd y tad ar un adeg, y gallai Robert reoli'r wlad, ond na allai Thomas "hyd yn oed rheoli gêm o denis.
Mynychodd Goleg Sant Ioan, Caergrawnt yn yr 1580au, ond ni wnaeth ei radd.[1][2] Eisteddodd yn Nhŷ'r Cyffredin (Y Deyrnas Unedig) am y tro cyntaf yn 1584, gan gynrychioli'r etholaeth lle'i ganed: Bwrdeisdref Westminster.
Yn wahanol i'w frawd Thomas a ymfalchiai yn ei dras Gymreig, pan geisiodd Cymro a ysgrifennodd ato brofi bod ach y Ceciliaid i'w olrhain trwy deulu'r Fychaniaid hyd at [Tywysog Cymru|Dywysogion Cymru, mynegodd ef yn bur drahaus nad oedd ganddo ddiddordeb yn y teganau gweigion hyn (in these vain toys) ac na fynnai glywed y fath ffwlbri (such absurdities).
Gweler hefyd
Cyfeiriadau