Hen enw Saesneg yr ardal yw Thorney Island, o'r dyddiau pan oedd y tir yn gorsiog ac yn anaddas ar gyfer adeiladu. Cyfeiria'r enw modern Westminster at Abaty a leolir yma. Yn Gymraeg defnyddir yr enw "San Steffan" i gyfeirio at y Senedd mewn modd tebyg ag y defnyddir Westminster yn Saesneg, ond nid yw'n ddilys cyfeirio at yr ardal fel "San Steffan" yn Gymraeg.[1]
Gyferbyn â Phalas San Steffan y mae Abaty Westminster, hen adeilad crefyddol a sefydlwyd gan Edward y Cyffeswr yn yr 11g. Mae coroni bron pob brenin a brenhines Lloegr wedi digwydd yn yr eglwys hon ers 1066, ac mae llawer ohonynt wedi'u claddu yno, ynghyd ag amryw o enwogion eraill. Penodwyd yr ardal sy'n cynnwys y Palas, yr Abaty ac Eglwys y Santes Fererid yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO ym 1987.