Sefydliad yr Undeb Ewropeaidd (UE) yw Pwyllgor y Rhanbarthau. Fe'i crëwyd ym 1994 o dan Gytundeb Maastricht ac mae'n amcanu at gynyddu cyfranogiad rhanbarthau Ewrop ym mywyd yr UE. Mae Pwyllgor y Rhanbarthau, sydd wedi'i leoli ym Mrwsel, yn cynnwys 344 o gynrychiolwyr o lywodraethau rhanbarthol a lleol.
Sefydlwyd Pwyllgor y Rhanbarthau er mwyn rhoi llais i gynrychiolwyr rhanbarthol a lleol yn natblygiad deddfau newydd yr Undeb. Mae hyn yn synhwyrol gan fod tua thri chwarter o ddeddfwriaeth yr UE yn cael ei gweithredu ar lefel ranbarthol neu leol.
Mae'r Cytundebau yn rhwymo'r Comisiwn a'r Cyngor i ymgynghori â Phwyllgor y Rhanbarthau bryd bynnag y gwneir cynigion newydd mewn meysydd sydd ag effeithiau rhanbarthol neu leol. Nododd Cytundeb Maastricht bum maes o'r fath: cydlyniad economaidd a chymdeithasol, rhwydweithiau seilwaith traws-Ewropeaidd, iechyd, addysg, a diwylliant. Ychwanegodd Cytundeb Amsterdam bum maes arall at y rhestr: polisi cyflogaeth, polisi cymdeithasol, yr amgylchedd, hyfforddiant galwedigaethol, a thrafnidiaeth.
Y tu allan i'r meysydd hyn, mae gan y Comisiwn, y Cyngor a Senedd Ewrop y dewis i ymgynghori â'r pwyllgor os ydynt yn gweld goblygiadau rhanbarthol neu leol pwysig i gynnig. Gall Pwyllgor y Rhanbarthau lunio barn ar ei fenter ei hun, sy'n ei alluogi i roi materion ar agenda'r UE.
Mae gan Bwyllgor y Rhanbarthau 344 o aelodau, sy'n cael eu rhannu ymysg aelod-wladwriaethau'r UE fel a ganlyn:
Aelod-wladwriaethau |
Nifer o aelodau
|
Yr Almaen, y Deyrnas Unedig, Ffrainc, yr Eidal |
24
|
Sbaen, Gwlad Pwyl |
21
|
Rwmania |
15
|
Yr Iseldiroedd, Gwlad Groeg, y Weriniaeth Tsiec, Gwlad Belg, Hwngari, Portiwgal, Sweden, Bwlgaria, Awstria |
12
|
Slofacia, Denmarc, y Ffindir, Iwerddon, Lithwania |
9
|
Latfia, Slofenia, Estonia |
7
|
Cyprus, Lwcsembwrg |
6
|
Malta |
5
|
Cyfanswm |
344
|
Dolen allanol