Comisiwn Ewropeaidd |
|
Enghraifft o: | institution of the European Union, gweithrediaeth |
---|
Dechrau/Sefydlu | 1 Ionawr 1958 |
---|
Pennaeth y sefydliad | Rhestr Llywyddion y Comisiwn Ewropeaidd |
---|
Aelod o'r canlynol | Council of the Baltic Sea States, Group on Earth Observations, Global Ecolabelling Network, Barents Euro-Arctic Council, Coalition for Advancing Research Assessment |
---|
Gweithwyr | 32,399 |
---|
Isgwmni/au | European Education and Culture Executive Agency, Consumer, Health and Food Executive Agency, Directorate-General for International Cooperation and Development, Directorate-General for Energy, Cronfa Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd, Directorate-General for Economic and Financial Affairs, Eurostat, Directorate-General for Interpretation, Directorate-General for Maritime Affairs and Fisheries, Directorate-General for Taxation and Customs Union, Directorate-General for European Neighbourhood and Enlargement Negotiations, Directorate-General for Trade, Directorate-General for Health and Food Safety, Directorate-General for Justice and Consumers, Directorate-General for Education, Youth, Sport and Culture, Directorate-General for Research and Innovation, Radio Spectrum Policy Group |
---|
Rhiant sefydliad | yr Undeb Ewropeaidd |
---|
Pencadlys | Dinas Brwsel |
---|
Enw brodorol | European Commission |
---|
Gwladwriaeth | Gwlad Belg |
---|
Gwefan | https://commission.europa.eu/ |
---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Adran weithredol yr Undeb Ewropeaidd yw'r Comisiwn Ewropeaidd. Mae José Manuel Durão Barroso yn Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd ers 2004. Mae'r Comisiwn yn awgrymu a gweithredu deddfwriaeth ac mae'n hollol annibynnol. Mae wedi ei leoli ym Mrwsel.
Cyfrifoldebau'r Comisiwn
- Mae'r Comisiwn yn awgrymu cyfreithiau newydd a yrrir i'r Senedd Ewropeaidd a Chyngor yr Undeb Ewropeaidd.
- Am ei fod yn adran weithredol mae'r Comisiwn yn arolygu gweithredu cyfraith Ewropeaidd, y gyllideb a'r rhaglenni y mae'r Senedd a'r Cyngor wedi cytuno arnynt.
- Mae'n gyfrifol am y cytundebau ac mae'n cydweithio gyda Llys Cyfiawnder Ewrop wrth archwilio i sicrhau bod pawb yn cadw cyfraith yr UE.
- Mae'n cynrhychioli'r UE ar lefel rhyngwladol ac mae'n gwneud cytundebau gyda gwledydd eraill y tu allan i'r Undeb, yn bennaf ar gyfer masnach a chydweithrediad rhyngwladol.
Apwyntiadau a strwythur
Ar hyn o bryd mae 27 o gomisiynwyr, un o bob aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd. Mae portffolio polisi gan bob comisiynydd ac maent i gyd yn atebol i'r Senedd yn unig.
Mae Cyngor yr Undeb Ewropeaidd yn dewis Llywydd y Comisiwn ac mae'n rhaid i Senedd Ewrop ei gymeradwyo. Mae'r aelod-wladwriaethau yn enwebu'r comisiynwyr eraill ac wedyn mae'n rhaid fod y Senedd yn cymeradwyo'r Comisiwn.
Gall y Senedd orfodi ymddiswyddiad y Comisiwn cyfan trwy bleidlais o ddiffyg hyder.
Y Comisiynwyr presennol yw:
Gweler hefyd
Dolenni allanol