Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1899

Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1899
Billy Bancroft, Capten Cymru
Dyddiad5 Ionawr - 18 Mawrth 1899
Gwledydd Lloegr
 Iwerddon
 yr Alban
 Cymru
Ystadegau'r Bencampwriaeth
Pencampwyr Iwerddon (3ydd tro)
Y Goron Driphlyg Iwerddon (2il dro)
Cwpan Calcutta yr Alban
Gemau a chwaraewyd6
Sgoriwr y nifer fwyaf
o bwyntiau
Cymru Llewellyn (15)
Sgoriwr
y nifer fwyaf
o geisiadau
Cymru Llewellyn (5)
1898 (Blaenorol) (Nesaf) 1900

Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad 1899 oedd yr 17eg ornest yng nghyfres Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad. Chwaraewyd chwe gêm rhwng 5 Ionawr a 18 Mawrth. Ymladdwyd hi gan Loegr, Iwerddon, Yr Alban, a Chymru.

Enillwyd Pencampwriaeth 1899 gan Iwerddon a gipiodd y Goron Driphlyg hefyd. Hwn oedd y pedwerydd tro i Iwerddon ennill y twrnamaint a'r ail achlysur iddynt ennill y Goron Driphlyg. Dyma fyddai llwyddiant olaf Iwerddon am gryn amser; ni fyddent yn ennill y teitl yn llwyr eto tan 1935 a daeth eu Coron Driphlyg nesaf ym 1948. Roedd llwyddiant Iwerddon yn ganlyniad i amddiffyniad cryf dros ben gyda thîm Iwerddon yn ildio dim ond un gic gosb yn y gêm yn erbyn yr Alban. Roedd y gosb ei hun yn ddigynsail gan iddi gael ei dyfarnu am dacl ar chwaraewr nad oedd ym meddiant y bêl, y tro cyntaf i gosb o'r fath gael ei rhoi mewn gêm ryngwladol.

Roedd pencampwriaeth 1899 yn nodedig fel man cychwyn cyfnod o drai i dîm Lloegr. Enillodd y Saeson dim ond saith allan o'r 33 gêm bencampwriaeth nesaf.

Tabl

Safle Gwlad Gemau Pwyntiau Pwyntiau
bwrdd
Chwarae Ennill Cyfartal Colli Dros Yn erbyn Gwahan.
1  Iwerddon 3 3 0 0 18 3 +15 6
2  yr Alban 3 2 0 1 29 19 +10 4
3  Cymru 3 1 0 2 36 27 +9 2
4  Lloegr 3 0 0 3 3 37 −34 0

Canlyniadau

7 Ionawr 1899
Cymru  26–3  Lloegr
4 Chwefror 1899
Iwerddon  6–0  Lloegr
18 Chwefror 1899
yr Alban  3–9  Iwerddon
4 Mawrth 1899
yr Alban  21–10  Cymru
11 Mawrth 1899
Lloegr  0–5  yr Alban
18 Mawrth 1899
Cymru  0–3  Iwerddon

System sgorio

Penderfynwyd ar y gemau ar gyfer y tymor hwn ar bwyntiau a sgoriwyd. Roedd cais werth tri phwynt, tra bod trosi gôl wedi’i chicio o’r cais yn rhoi dau bwynt ychwanegol. Roedd gôl a ollyngwyd o'r marc a gôl adlam ill dau werth pedwar pwynt. Roedd goliau cosb werth tri phwynt.

Y gemau

Cymry v. Lloegr

7 Ionawr 1899
 Cymru 26 – 3  Lloegr
Cais: Llewellyn (4)
Huzzey (2)
Trosiad: Bancroft (4)
Cais: Robinson
St Helens, Abertawe
Maint y dorf: 20,000
Dyfarnwr: AJ Turnbull (Yr Alban)

Cymru: Billy Bancroft (Abertawe) capt.,[1] Viv Huzzey (Caerdydd), Gwyn Nicholls (Caerdydd), Reg Skrimshire (Casnewydd), Willie Llewellyn (Llwynypia), Evan James (Abertawe), David James (Abertawe), Jere Blake (Caerdydd), Tom Dobson (Caerdydd), William Alexander (Llwynypia), Fred Scrine (Abertawe), David Daniel (Llanelli), Alfred Brice (Aberafan), Jehoida Hodges (Casnewydd), Will Parker (Abertawe)

Lloegr: Octopus Gamlin, (Devonport Albion]), Tot Robinson (Percy Park), Percy Stout (Caerloyw), Percy Royds (Blackheath) Reginald Forrest (Wellington), Robert Livesay (Blackheath), Arthur Rotherham (Richmond) capt., Frederick Jacob (Richmond), George Ralph Gibson (Northern Football Club), John Daniell (Prifysgol Caergrawnt), Robert Oakes (Hartlepool Rovers), Herbert Dudgeon (Richmond), William Mortimer (Marlborough Nomads), Charles Harper (Prifysgol Rhydychen), Joseph Davidson (Aspatria) [2]


Iwerddon v. Lloegr

4 Chwefror 1899
 Iwerddon 6 – 0  Lloegr
Cais: Allen
Cosb: Magee
Lansdowne Road, Dulyn
Dyfarnwr: DG Findlay (Yr Alban)

Iwerddon: J Fulton (C R Gogledd yr Iwerddon), Ian Davidson (C R Gogledd yr Iwerddon), J B Allison (Coleg Campbell, Belffast), George Harman (Prifysgol Dulyn), WH Brown (Prifysgol Dulyn), Louis Magee (Bective Rangers) capt., GG Allen (Derry), M Ryan (Rockwell College), J Ryan (Rockwell College), WG Byron (C R Gogledd yr Iwerddon), J McIlwaine (C R Gogledd yr Iwerddon), Tom McGown (C R Gogledd yr Iwerddon), Tom Ahearne (Queens College Cork), Jim Sealy (Prifysgol Dulyn), H McCoull (Belffast Albion)

Lloegr: J. F. Byrne (Mosley), Ernest Fookes (Sowerby Bridge), Percy Stout (Caerloyw), John Taylor (Castleford), Stan Anderson(Whitley Bay Rockcliff), Ernest Taylor (Whitley Bay Rockcliff), Arthur Rotherham (Richmond) capt., Frederick Jacob (Richmond), Charles Thomas (Barnstable), Arthur Darby (Prifysgol Caergrawnt), Joseph Blacklock (Aspatria) Herbert Dudgeon (Richmond), John Shooter (Morley), Frank Stout (Caerloyw), James Davidson (Aspatria) [3]


Yr Alban V. Iwerddon

18 Chwefror 1899
 yr Alban 3 – 9  Iwerddon
Pen: Donaldson Cais: Campbell
Reid
Sealy
Inverleith, Caeredin
Dyfarnwr: ET Gurdon (Lloegr)

Yr Alban: J M Reid (Edinburgh Academicals), G T Campbell (Albanwyr Llundain), Douglas Monypenny (Albanwyr Llundain), Robert Neilson (Gorllewin yr Alban), T Scott (Langholm), W P Donaldson (Gorllewin yr Alban) capt., J T Mabon (Jedforest), J H Couper (Gorllewin yr Alban), L Harvey (Greenock Wanderers), G C Kerr (Durham), W M McEwan (Edinburgh Academicals) A MacKinnon (Albanwyr Llundain), Mark Coxon Morrison (Royal HSFP), HO Smith (Watsonians), R C Stevenson (Northumberland)

Iwerddon: PE O'Brien-Butler (Monkstown), Gerry Doran (Lansdowne), J B Allison (Coleg Campbell, Belffast), C Reid (C R Gogledd yr Iwerddon), Edward Fitzhardinge Campbell (Monkstown), Louis Magee (Bective Rangers) capt., A Barr (Methodistiaid Belffast), Tom McGown (C R Gogledd yr Iwerddon), M Ryan (Rockwell College), WG Byron (C R Gogledd yr Iwerddon), JH Lytle (C R Gogledd yr Iwerddon), J Ryan (Rockwell College), Arthur Meares (Prifysgol Dulyn), Jim Sealy (Prifysgol Dulyn), TJ Little (Bective Rangers)

Roedd y daith Wyddelig i'r Alban yn gêm o ddigwyddiadau tro cyntaf; nid yn unig y dyfarnwyd y gosb dybiedig gyntaf am dacl oddi ar y bêl, ond hon oedd y gêm gyntaf ar dir cartref newydd yr Alban, Inverleith a hwn oedd y tro cyntaf i Iwerddon lwyddo i guro'r Alban yn yr Alban.


Yr Alban v. Cymru

4 Mawrth 1899
 yr Alban 21 – 10  Cymru
Cais: Gedge
Smith
Monypenny
Adlam Gedge
Lamond
Cais: Llewellyn Lloyd
Llewellyn
Tros Bancroft (2)
Inverleith, Caeredin
Dyfarnwr: M G Delaney (Iwerddon)
Cartŵn gan Joseph Morewood yn nodi bod y gêm wedi ei ohirio nifer o weithiau

Yr Alban: H Rottenburg (Albanwyr Llundain), Henry Gedge (Albanwyr Llundain), Douglas Monypenny (Albanwyr Llundain), George A.W. Lamond (Kelvinshire Acads), T Scott (Langholm), R T Neilson (Gorllewin yr Alban), JW Simpson (Royal HSFP), John Dykes (Albanwyr Llundain), G C Kerr ), W M McEwan (Edinburgh Academicals) A MacKinnon (Albanwyr Llundain), Mark Coxon Morrison (Royal HSFP) capt., H O Smith (Watsonians), R C Stevenson (Northumberland), W J Thompson (Gorllewin yr Alban)

Cymru: Billy Bancroft (Abertawe) capt., Viv Huzzey (Caerdydd), Gwyn Nicholls (Caerdydd), Reg Skrimshire (Casnewydd), Willie Llewellyn (Llwynypia), Selwyn Biggs (Caerdydd), Llewellyn Lloyd (Casnewydd), Jere Blake (Caerdydd), Tom Dobson (Caerdydd), William Alexander (Llwynypia), Fred Scrine (Abertawe), Alfred Brice (Aberafan), Jehoida Hodges (Casnewydd), Will Parker (Abertawe), Dick Hellings (Llwynypia)

Bron i ddau fis ar ôl i'r twrnamaint gychwyn, aeth Cymru ar eu taith gyntaf i Inverleith ar ôl i dywydd gwael ohirio'r ornest ar bedwar achlysur. Hon oedd y gêm efo sgôr uchaf y gystadleuaeth.

Douglas Monypenny, a sgoriodd gais yn yr ornest oedd yr unig chwaraewr rygbi rhyngwladol o'r Alban i gael ei ladd yn Rhyfel y Boer, gan farw'r flwyddyn ganlynol yn Paardeberg.


Lloegr v. Yr Alban

11 Mawrth 1899
 Lloegr 0 – 5  yr Alban
Cais: Gillespie
Tros Thompson
Rectory Field, Blackheath
Dyfarnwr: Joseph Magee (Iwerddon)

Lloegr: Octopus Gamlin (Devonport Albion), Ernest Fookes (Sowerby Bridge), Percy Stout (Caerloyw), William Bunting (Richmond), John Matters (RNEC Keyham), Reggie Schwarz (Richmond), Arthur Rotherham (Richmond) capt., Herbert Dudgeon (Richmond), Robert Oakes (Hartlepool Rovers), James Davidson (Aspatria), Joseph Davidson (Aspatria), Frank Stout (Caerloyw), Reginald Hobbs (Blackheath), John Shooter (Morley), Aubrey Dowson] (Mosley)

Yr Alban: H Rottenburg (Albanwyr Llundain), Henry Gedge (Albanwyr Llundain), Douglas Monypenny (Albanwyr Llundain), George A.W. Lamond (Kelvinshire Acads), T Scott (Langholm), Jimmy Gillespie (Edinburgh Academicals), JW Simpson (Royal HSFP), John Dykes (Albanwyr Llundain), GC Kerr (Edinburgh Wanderers), WM McEwan (Edinburgh Academicals) A MacKinnon (Albanwyr Llundain), Mark Coxon Morrison (Royal HSFP) capt., HO Smith (Watsonians), RC Stevenson (Northumberland), WJ Thompson (Gorllewin yr Alban)

Mewn gêm a welodd yr unig bartneriaeth ryngwladol rhwng y brodyr o Loegr, James a Joseph Davidson; Fe wnaeth colled Lloegr roi'r Llwy Bren i'r tîm am y tro cyntaf yn nhwrnamaint y Pedair Gwlad. Daeth y gêm hon i ben ag un ar ddeg o yrfaoedd rhyngwladol, saith o Loegr a phedwar o'r Alban.----

Cymru v. Iwerddon

18 Mawrth 1899
 Cymru 0 – 3  Iwerddon
Cais: Doran
Parc yr Arfau, Caerdydd
Dyfarnwr: AJ Turnbull (Yr Alban)

Cymru: Billy Bancroft (Abertawe) capt., Viv Huzzey (Caerdydd), Gwyn Nicholls (Caerdydd), Reg Skrimshire (Casnewydd), Willie Llewellyn (Llwynypia), Selwyn Biggs (Caerdydd), Llewellyn Lloyd (Casnewydd), William Alexander (Llwynypia), Jere Blake (Caerdydd), Fred Cornish (Caerdydd), David Daniel (Llanelli), Alfred Brice (Aberafan), Jehoida Hodges (Casnewydd), George Boots (Casnewydd), Dick Hellings (Llwynypia)

Iwerddon: PE O'Brien-Butler (Monkstown), Gerry Doran (Lansdowne), C Reid (C R Gogledd yr Iwerddon), George Harman (Prifysgol Dulyn), Edward Fitzhardinge Campbell (Monkstown), Louis Magee (Bective Rangers) capt., GG Allen (Derry), Cecil Moriarty (Monkstown), M Ryan (Rockwell College), WG Byron (C R Gogledd yr Iwerddon), J McIlwaine (C R Gogledd yr Iwerddon), J Ryan (Rockwell College), Arthur Meares (Prifysgol Dulyn), Jim Sealy (Prifysgol Dulyn), TJ Little (Bective Rangers)

Daeth dorf o dros 40,000 o bobl i Barc yr Arfau Caerdydd i weld Iwerddon yn ennill y Goron Driphlyg, record ar gyfer gêm yn y Pedair Gwlad. Yr unig sgôr oedd cais gan Gerry Doran ac roedd y dorf ar adegau yn afreolus gyda brwdfrydedd. Cafodd y pum munud arferol ar gyfer hanner amser ei ymestyn i bymtheg munud wrth i swyddogion geisio gwthio'r dorf oresgynnol o'r cae. Cafodd yr ail hanner aflonyddwch tebyg gan y dorf hefyd, a baciodd hyd at y llinellau ystlys gan orlifo i mewn i ardal y chwarae ar adegau. Mae'r gêm hefyd yn cael ei chofio fel y gêm y methodd capten Cymru Billy Bancroft ei chwblhau ar ôl iddo gael ei daflu i'r dorf gan y brodyr Gwyddelig Mick a Jack Ryan. Syrthiodd Bancroft yn lletchwith, gan dorri sawl asen a gorfodwyd ef i ymddeol.

Dolenni allanol

Ffynonellau

Cyfeiriadau

  1. "BANCROFT, WILLIAM JOHN (1871-1959), chwaraewr rygbi a chriced. | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-01-31.
  2. "England V Wales". Papurau Cymru. Jones & Son, South Wales Echo. 1899-01-07. Cyrchwyd 2021-01-31.
  3. "ENGLAND v IRELAND - South Wales Echo". Jones & Son. 1899-02-04. Cyrchwyd 2021-01-31.

Dolenni allanol

Rhagflaenydd
Y Pedair Gwlad 1898
Pencampwriaeth Rygbi'r Pedair Gwlad
1899
Olynydd
Y Pedair Gwlad 1900

Cyfeiriadau