Roedd John George Boots (2 Gorffennaf 1874 – 29 Rhagfyr 1928) yn flaenwr rygbi rhyngwladol Cymreig a chwaraeodd rygbi clwb i Gasnewydd[1] a rygbi sirol gyda Sir Fynwy. Enillodd 16 cap i Gymru.[2]
Cefndir
Ganwyd Boots yn Aber-bîg Sir Fynwy yn fab i David Boots, gweithiwr yn y busnes gwin a gwirodydd, a Harriet (née Simmonds) ei wraig. Roedd y teulu yn hanu o Swydd Rydychen yn wreiddiol ac wedi symud i Sir Fynwy tua 1872.
Mewn cyfnod pan oedd rygbi yn gêm amatur ac nid oedd hawl dderbyn tal am chwarae bu Boots yn gweithio fel asiant i gwmni yswiriant.
Ym 1896 roedd Boots yn un o 170 o etholwyr Rhyddfrydol bu'r Ceidwadwyr yn ceisio cael tynnu eu henwau oddi ar restr etholwyr Casnewydd. Bu'r ymgais yn aflwyddiannus.[3]
Ym 1897 priododd Boots â Louisa Shepherd bu iddynt fab, a fu farw'n blentyn, a merch.
Gyrfa Rygbi
Roedd Boots yn cael ei ystyried yn chwaraewr cyson gydag ymdeimlad gwych o leoliadol a fyddai’n taclo’n galed ac yn mygu’r bêl rydd; roedd ei sgil pasio yn gryf ynghyd â'i allu i ddal a driblo'r bêl. Nid oedd Boots yn chwaraewr lliwgar ond roedd yn 'anrheithiwr' da a gallai droi amddiffyniad yn ymosodiad, gan roi llwyfan i gefnwyr, fel Nicholls a Lloyd, i ennill ceisiadau. Cafodd Boots yrfa rygbi eithriadol o hir, er gwaetha'r ffaith ei fod yn ymddangos ei fod ar ei wely angau ym 1908 gyda pliwrisi actwr.
Gyrfa clwb
Dechreuodd gyrfa rygbi Boots gyda chlwb Aber-bîg[4] pan oedd yn 14 mlwydd oed, yna symudodd i'r clwb y Pill Harriers, clwb yn Nociau Casnewydd oedd ag enw am fod yn galed. Ymysg chwaraewyr rhyngwladol eraill yr Harriers oedd Tommy Vile a George Travers. Roedd gan Boots un o'r gyrfaoedd hiraf ar frig rygbi Cymru. Ymunodd â Chasnewydd ym 1895 a chwaraeodd ei gêm olaf iddynt ym 1922. Ei gêm olaf oedd ei 365ain gêm i Gasnewydd ac yn 47 oed wrth ymddeol o'r gêm mae'n parhau a'r record am fod y chwaraewr hynaf i gynrychioli'r clwb mewn gêm swyddogol.
Gyrfa ryngwladol
Gwnaeth Boots ei ymddangosiad rhyngwladol cyntaf mewn gornest buddugol oddi cartref yn erbyn Iwerddon ar 19 Mawrth 1898.[5] Wedi chware 16 gwaith dros ei wlad fe sgoriodd un cais a hynny mewn gêm yn erbyn yr Alban ym 1901. Roedd un o eiliadau gorau Boots mewn crys Cymru yng ngêm 1903 yn erbyn Iwerddon ym Mharc yr Arfau, Caerdydd. Yn hanner cyntaf y gêm roedd ei daclo rhagorol yn darparu tir cadarn i'r olwyr ymosod, er iddo dorri asgwrn pont yr ysgwydd yn ystod un o'r cyfnewidiadau.[6] Er gwaethaf y boen parhaodd Boots i daclo yn ystod yr hanner cyntaf ond bu'n rhaid iddo ymadael a'r maes ar ôl yr egwyl, ond erbyn hynny roedd y difrod a wnaed ganddo wedi rhoi'r oruchafiaeth i Gymru a threchwyd Iwerddon 18-0.[7]
Gemau rhyngwladol a chwaraewyd [8]
- Lloegr 1898[9], 1900,[10] 1901, 1902, 1903, 1904
- Iwerddon 1898,[11] 1899,[12] 1900, 1901, 1902, 1903
- yr Alban 1900, 1901,[13] 1902, 1903
Llyfryddiaeth
Cyfeiriadau