Milwr a gwleidydd o Israel oedd Meir Amit (17 Mawrth1921 – 17 Gorffennaf2009) a wasanaethodd yn Gyfarwyddwr Mossad o 1963 i 1968, yn aelod o'r Knesset o 1977 i 1981, ac yn Weinidog Cludiant a Gweinidog Cyfathrebu Israel o 1977 i 1978.
Ymunodd â Haganah, prif filisia'r mudiad Seionaidd, yn 15 oed. Enillodd enw fel arweinydd milwrol a thactegydd craff yn ystod ei ieuenctid, wrth amddiffyn gwladfeydd Iddewig yn erbyn cyrchoedd gan yr Arabiaid. Gwasanaethodd yn noter, un o'r plismyn cynorthwyol Iddewig a recriwtiwyd gan y Prydeinwyr yn ystod gwrthryfel yr Arabiaid ym 1936–39.[1]
Yn y cyfnod hwn, cymerodd Meir y cyfenw Hebraeg Amit.[1] Priododd Meir Amit ag Yona Kelman ym 1941, a chawsant dair merch.[2]
Gyrfa filwrol (1948–63)
Wedi i Israel ddatgan ei hannibyniaeth ym 1948, goresgynnwyd y wlad gan luoedd y Cynghrair Arabaidd. Yn ystod Rhyfel yr Arabiaid a'r Israeliaid, arweiniodd Amit gwmni o Luoedd Amddiffyn Israel (IDF) yn erbyn byddinoedd Irac, Syria, a'r Aifft. Cafodd ei anafu'n ddifrifol yn ystod yr ymladd yn Jenin ym Mehefin 1948, wrth iddo arwain cyrch ar un o amddiffynfeydd y gelyn. Er gwaethaf yr anaf iddo, dychwelodd i faes y gad ym Mawrth 1949 i arwain un o'r bataliynau a gipiodd Umm al-Rashrāsh (bellach Eilat) yn Ymgyrch Uvda.
Wedi buddugoliaeth Israel yn ei rhyfel annibyniaeth, dyrchafwyd Meir Amit yn ben ar Frigâd Golani ym 1950.[2][1] Ym Mai 1951, gorchmynnwyd i Amit fwrw lluoedd Syriaidd allan o Tel Mutilla, ar gyrion Ucheldiroedd Golan, a oedd i fod yn dir dadfilwroledig rhwng y ddwy wlad. Fe arweiniodd Frigâd Golani wrth ymosod ar y Syriaid am bedwar diwrnod yn olynol. Er gwaethaf enciliad lluoedd Syria o'r ardal, bu farw 40 o filwyr Israelaidd ar faes y gad a chafodd Amit ei feirniadu gan swyddogion uwch. Cafodd ei holi am y frwydr gan y Cadfridog Moshe Dayan, Cadlywydd y Rheolaeth Ddeheuol, a wrthodai'r achos yn erbyn Amit yn syth. Yn ôl Dayan, buddugoliaeth gan lu dewr a diwyd oedd y frwydr ac esiampl i unedau milwrol eraill oedd Brigâd Golani.[1] Daeth Amit dan adain Dayan, a fe'i penodwyd yn gynorthwywr iddo.[2]
Wedi iddo dderbyn hyfforddiant yng Ngholeg Milwrol y Fyddin Brydeinig yn Camberley ym 1954,[2] penodwyd Amit yn bennaeth ar Gangen Ymgyrchoedd y Lluoedd Amddiffyn ym 1956, ac i bob pwrpas yn ddirprwy i Dayan, a oedd erbyn hynny yn Bennaeth y Staff Cyffredinol. Yn ystod Argyfwng Suez (1956), pan oedd Dayan yn teithio yn ôl ac ymlaen i'r cadlysoedd ar faes y gad yng ngorynys Sinai, bu Amit yn rheoli ymgyrch yr Israeliaid o bencadlys y fyddin yn Tel Aviv. Dyrchafwyd Amit yn Gadlywydd y Rheolaeth Ddeheuol gan Dayan ym 1958.[1] Cafodd Amit ei anafu yn ddifrifol, a bron ei ladd, ym 1958, oherwydd diffyg ar ei barasiwt yn ystod ymarferiad gyda'r awyrfilwyr. Treuliodd 18 mis yn yr ysbyty, a thybiodd na fyddai eto ar wasanaeth gweithredol. Wedi iddo wella, aeth i Efrog Newydd i astudio busnes ym Mhrifysgol Columbia ym 1959.[1]
Pan ddychwelodd Amit i Israel, ymunodd â'r Gyfarwyddiaeth Gudd-wybodaeth Filwrol (Aman). Dyrchafwyd yn bennaeth ar Aman ym 1962. Yn y swydd hon, cafodd ei gythruddo gan obsesiwn Isser Harel, Cyfarwyddwyr Mossad (asiantaeth cudd-wybodaeth sifil Irsrael), â chanlyn gwyddonwyr Natsïaidd a oedd yn gweithio i lywodraeth yr Aifft.[3] Ar 25 Mawrth 1963, pan oedd Amit ar daith i'r Môr Marw, cafodd ei orchymyn i hedfan i Tel Aviv ar unwaith i gwrdd â'r Prif Weinidog a Gweinidog Amddiffyn David Ben-Gurion. Yno, fe'i penodwyd yn Gyfarwyddwr Mossad yn sgil ymddiswyddiad Harel.[1]
Cyfarwyddiaeth Mossad (1963–68)
Ar y cychwyn, yn ystod y naw mis pan oedd yn bennaeth ar Aman yn ogystal â Mossad, cafodd Amit ei ystyried yn ddieithryn nas croesewir gan nifer o swyddogion Mossad. Ar ei ddiwrnod cyntaf yn y swydd, bu cynnwrf ym y pencadlys wrth i'r cyfarwyddwr newydd gerdded i mewn i'r adeilad yn ei wisg filwrol lawn â'i holl rubanau,[1] ac ymhen fawr o dro ymddiswyddai sawl aelod o Mossad a oedd yn ffyddlon i Harel, gan gynnwys Yitzhak Shamir (yn ddiweddarach Prif Weinidog Israel).[3] Fodd bynnag, aeth Amit i'r afael â diwygio cyfundrefn Mossad, gan geisio moderneiddio pob agwedd o'i gwaith a dod â therfyn i'r cystadlu rhwng yr asiantaethau cudd-wybodaeth sifil a milwrol. Cyflwynodd Amit gyfrifiaduron a thechnoleg newydd arall, a defnyddiodd ei addysg fusnes i ailstrwythuro a gwella rheolaeth ac atebolrwydd. Yn ogystal, crëwyd rhwydwaith o ffynonellau cudd-wybodaeth ddynol gyda chysylltiadau ag asiantaethau gwledydd eraill, a throsglwyddwyd uned arbennig o'r fyddin i Mossad i gyd-lynu ysbïwriaeth Israelaidd yn y byd Arabaidd. Ymddiswyddodd Amit o gyfarwyddiaeth Aman yn Ionawr 1965, gan ganolbwyntio ar arwain Mossad yn unig.
Ymdrechai Amit i ffurfio berthnasau rhwng Israel a gwledydd yn Affrica ac Asia, gan gynnwys Cenia, Wganda, Singapôr, India, Twrci, ac Indonesia. Honnai iddo deithio i Iran pob mis i ymweld â'r Shah.[3] Un o'i benderfyniadau ymarferol cyntaf oedd i fagu cysylltiadau â'r Cyrdiaid yn Irac, gan gwrdd â'u harweinwyr a chyflenwi arfau ac hyfforddiant iddynt. Ei nod oedd i fanteisio ar wybodaeth y Cyrdiaid am luoedd arfog Irac, ac i'w defnyddio i danseilio awdurdod llywodraeth Irac yn nhiroedd y Cyrdiaid.[1] Llwyddodd Mossad osod ei ysbïwyr mewn sawl gwlad Arabaidd dan arweiniad Amit, gan gynnwys Eli Cohen, a fyddai'n gynghorwr i weinidog amddiffyn Syria cyn cael ei ddatgelu ym 1965. Yng nghanol 1963 lansiwyd Ymgyrch Diemwnt i gael gafael ar yr MiG-21, awyren ymladd a rhagodi a gynhyrchwyd gan yr Undeb Sofietaidd. Daeth y llwyddiant yn Awst 1966 pan ffoes Munir Redfa, peilot o Awyrlu Irac, yn ei MiG-21 i Faes Awyrlu Israel yn Hatzor.
Ym 1965 gofynnodd y Cadfridog Mohammed Oufkir, Gweinidog Cartref Moroco, i Amit gynorthwyo cynllwyn i lofruddio'r gweriniaethwr sosialaidd Mehdi Ben Barka, a oedd yn byw yn alltud yn y Swistir. Diflannodd Ben Barka ar 29 Hydref 1965 wedi iddo deithio i Ffrainc a chael ei gipio gan heddweision ym Mharis. Credir iddo gael ei ddwyn i gartref gangster gan gudd-asiantau, ei saethu'n farw, a'i gladdu. Gwylltiwyd y Ffrancod gan ran yr Israeliaid yn llofruddiaeth Ben Barka, a chaewyd canolfan Ewropeaidd Mossad ym Mharis gan yr Arlywydd Charles de Gaulle. Galwyd ymchwiliad i weithgareddau Mossad gan Levi Eshkol, Prif Weinidog Israel, dan arweiniad y cyn-gyfarwyddwr Isser Harel, a oedd bellach yn gynghori'r prif weinidog ar faterion cudd-wybodaeth. Honnodd Amit nad oedd gan swyddogion Mossad ran yn y llofruddiaeth, oni bai am ddarparu pasbort ffug a cheir hur, ond argymhellodd Harel y dylai Amit gael ei ddiswyddo ar unwaith. Bygythiodd Amit, os câi ei ddiswyddo, y byddai'n codi stŵr ac yn cyhoeddi'r ffaith i Eshkol roi sêl ei fendith ar y cynllwyn. Penderfynodd Eshkol i gadw Amit yn y swydd ac i guddio'r manylion er mwyn atal sgandal.[1]
Teithiodd Amit i Washington, D.C. ym Mai 1967 i ddwyn perswâd ar lywodraeth yr Unol Daleithiau i gefnogi rhagymosodiad gan Israel yn erbyn gwledydd cyfagos. Mynnodd y byddai Israel yn dymuno cymorth wrth ailarfogi wedi'r rhyfel, cefnogaeth yr Americanwyr yn y Cenhedloedd Unedig, ac ataliaeth os oedd angen i gadw'r Sofietiaid rhag ymyrryd yn y rhyfel. Ymatebodd Robert MacNamara, Ysgrifennydd Amddiffyn yr Unol Daleithiau, gan ddweud "I read you loud and clear". Dychwelodd Amit i hysbysu'r Prif Weinidog Eshkol bod gan Israel rwydd hynt i ymosod ar safleoedd Awyrlu yr Aifft, a dechreuodd felly y Rhyfel Chwe Diwrnod ar 5 Mehefin 1967.[1]
Gyrfa fusnes gynnar a gyrfa wleidyddol (1968–81)
Ymddiswyddodd Amit o Mossad ym 1968, yn 47 oed. Cafodd swydd cyfarwyddwr cyffredinol Koor, y cydgwmni diwydiannol mwyaf yn Israel. Yn Hydref 1973, yn ystod Rhyfel Yom Kippur, cafodd ei benodi yn gynorthwywr i'w hen uwch-swyddog a chyfaill, Moshe Dayan, a oedd erbyn hynny yn weinidog amddiffyn y wlad.[1]
Camodd Meir Amit i fyd gwleidyddiaeth ym 1976 fel un o sefydlwyd y blaid ryddfrydol Dash. Er iddi bara ond dwy flynedd, enillodd Dash 15 o seddau'r Knesset yn yr etholiad ym Mai 1977, gan gynnwys un sedd i Amit. Ar 23 Hydref 1977 penodwyd Amit yn weinidog cludiant ac yn weinidog cyfathrebu yn llywodraeth glymblaid y Prif Weinidog Menachem Begin. Ymddiswyddodd o'r cabinet ar 15 Medi 1978 ac ymunodd â'r blaid Shinui. Ymaelododd â'r blaid lafur HaMa'arakh ym 1980, a daeth ei gyfnod yn y Knesset i ben ym 1981.
Gyrfa fusnes hwyrach a diwedd ei oes (1981–2009)
Daliodd Meir Amit yn weithgar trwy gydol ei henaint, yn enwedig â chwmnïau uwch-dechnoleg. Bu'n cynghori ac yn ymwneud â datblygu lloerennau cyfathrebu gan gynnwys AMOS.
Ar Ddiwrnod Annibyniaeth Israel (5 Iyar), byddai Amit yn gwahodd cannoedd o bobl i'w barti blynyddol yn ei gartref yn Tel Aviv i fwyta, yfed, a chanu.[1] Yn ei gartref roedd ganddo gasgliad o 1500 o ddoliau, wedi eu casglu ganddo ar ei deithiau i wledydd y byd yn ystod ei yrfa.[3]
Bu farw Meir Amit ar 17 Gorffennaf 2009 yn 88 oed.