Plasdy neu gastell canoloesol yw Llys yr Esgob yn Llandaf, sydd yn awr yn faesdref o Gaerdydd. Fe'i leolir ar ddiwedd y Stryd Fawr, nid ymhell o Eglwys Gadeiriol Llandaf. Fe'i adeiladwyd yn ôl pob tebyg gan William de Braose, esgob Llandaf o 1267 i 1287 ac aelod o'r teulu Normannaidd a fu'n arglwyddi ar Ŵyr. Er mai adfail yw'r castell bellach mae'r porthdy a'r muriau allanol yn weddol gyflawn. Mae'r porthdy yn debyg iawn i borth ddwyreiniol allanol Castell Caerffili, sy'n dyddio'n ôl i'r un cyfnod.[1] Ar ôl gwrthryfel Owain Glyn Dŵr ni ddychwelodd esgobion Llandaf i'r adeilad hwn am iddynt adeiladu plasdy newydd ym Matharn, Sir Fynwy.[2]
Mae'r castell i'w weld yn gyflawn ar fap o 1610 gan John Speed, felly mae'n debyg iddo gael ei ddatgaeru yn ystod y Rhyfel Cartref. Erbyn canol y 19g roedd esgobion Llandaf yn preswylio mewn tŷ crand lle mae ysgol breifat y Gadeirlan yn awr; roedd adfeilion y llys canoloesol yn rhan o'r ardd. Rhoddwyd Llys yr Esgob i gyngor Caerdydd ym 1971 ac fe agorodd i'r cyhoedd fel parc, ar ôl gwaith cadwraeth ar yr adeilad, ym 1972.[3]
Cyfeiriadau
↑Newman, John (1995). Glamorgan. The Buildings of Wales. Llundain: Penguin. t. 256.CS1 maint: ref=harv (link)
↑Emery, Anthony (2000). Greater Medieval Houses of England and Wales, 1300–1500: Volume 2, East Anglia, Central England and Wales. Caergrawnt: Gwasg Prifysgol Caergrawnt. t. 647.