Castell yng nghanol tref Caerffili a adeiladwyd rhwng 1268 a 1271 yw Castell Caerffili. Castell tua 1.2ha cydganol yw e gyda ffos o'i gwmpas. Hwn yw'r castell mwyaf yng Nghymru a'r ail fwyaf yng ngwledydd Prydain.
Hanes
Adeiladwyd y castell ar safle hen gaer Rufeinig gynharach, gan Gilbert de Clare, Arglwydd Morgannwg a oedd o dras Normanaidd. Yr amcan oedd rhwystro'r Tywysog Llywelyn ap Gruffudd rhag ychwanegu'r tiroedd i'w Dywysogaeth.
Llwyddodd Llywelyn gipio'r castell ym 1270, ond mewn blwyddyn roedd de Clare yn dechrau ailadeiladu'r castell eto.[1]
Chafodd y castell ddim llawer o ddifrod adeg Rhyfel Cartref Lloegr (1642-1648) ar wahân i'r tŵr de-orllewinol a ddechreuodd wyro.
Adeiladwaith
Mae Castell Caerffili yn gastell consentrig a amgylchynir gan ffosydd dŵr a chylchoedd o dir. Mae'r tŵr de-orllewinol yn 80 troedfedd o uchder ond yn gwyro allan 13 troedfedd.
Cadwraeth a mynediad
Mae Castell Caerffili ar restr Cadw ac yn hawdd i gyrraedd o ganol tref Caerffili.
Llyfryddiaeth
William Rees, Caerphilly Castle, a history and description (1937)