Mae Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru yn gorff a ariennir gan Lywodraeth Cymru, ac sydd wedi'i leoli yn Aberystwyth, Ceredigion. Fe'i sefydlwyd yn 1908 gyda'r amcan o warchod a chadw Rhestr Henebion Cenedlaethol Cymru.
Mae eu gwaith yn cynnwys y meysydd archaeoleg, pensaernïaeth a diwylliant Cymru, a darparu gwybodaeth gyhoeddus drwy ei archifau a'u cyhoeddiadau helaeth. Mae eu harbenigwyr, hefyd yn cynnig cyngor i'r cyhoedd. Mae eu cronfa ddata'n cynnwys cynlluniau, ffotograffau a disgrifiadau o dros 80,000 o safleoedd ac adeiladau ac olion ar fôr ac ar dir. Mae gan y Comisiwn dros 1.5 miliwn o ffotograffau, sy'n ei wneud yr archif mwyaf o'i fath yng Nghymru.[1]
Mae'r corff yn rhannu ychydig o'u gwybodaeth drwy eu gwefan "Coflein".
Cyfeiriadau