Gwleidydd o'r Alban yw John McNally (ganwyd 1 Chwefror 1951) a etholwyd yn Aelod Seneddol yn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig, 2015 dros Falkirk; mae'r etholaeth yn siroedd Falkirk a Gorllewin Lothian. Mae'n cynrychioli Plaid Genedlaethol yr Alban yn Nhŷ'r Cyffredin.
Fe'i ganwyd yn nhref Denny yn Falkirk. Treuliodd ei flynyddoedd cyntaf yn farbwr; mae ganddo briod, Sandra, a dau o blant.[1]
Etholiad 2015
Yn Etholiad Cyffredinol 2015 enillodd Plaid Genedlaethol yr Alban 56 allan o 59 sedd yn yr Alban.[2][3] Yn yr etholiad hon, derbyniodd John McNally 34831 o bleidleisiau, sef 57.7% o'r holl bleidleisiau a fwriwyd, sef gogwydd o 27.5 ers etholiad 2015 a mwyafrif o 19,701 pleidlais. Trechodd y cyn-aelod Llafur Karen Whitefield a David Coburn (UKIP).
Gweler hefyd
Cyfeiriadau