Falkirk

Falkirk
Stryd Fawr, Falkirk
Mathtref, large burgh Edit this on Wikidata
Poblogaeth35,850 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iKemper Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirFalkirk Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd11 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaStenhousemuir Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau56.0006°N 3.7844°W Edit this on Wikidata
Cod SYGS20000468, S19000559 Edit this on Wikidata
Cod OSNS887801 Edit this on Wikidata
Map

Tref yng nghanolbarth yr Alban yw Falkirk[1] (Gaeleg yr Alban: An Eaglais Bhreac ("Yr Eglwys Frech");[2] Sgoteg: The Fawkirk).[3] Saif i'r gogledd-orllewin o ddinas Caeredin ac i'r gogledd-ddwyrain o Glasgow. Hi yw canolfan weinyddol awdurdod unedol Falkirk. Roedd y boblogaeth yn 2007 yn 34,071. Mae Caerdydd 504.8 km i ffwrdd o Falkirk ac mae Llundain yn 555 km. Y ddinas agosaf ydy Stirling sy'n 15.8 km i ffwrdd.

Saif y dref ger cymer Camlas Forth a Clud a'r Union Canal, a thyfodd yn ganolfan ddiwydiannol bwysig yn y 18fed a'r 19g. Yr enw cynharaf a gofnodir arni oedd "Ecclesbrith", Cymbreg neu Hen Gymraeg.

Bu dwy frwydyr yn y cylch: Brwydr Falkirk yn 1298 pan orchfygwyd William Wallace gan fyddin Edward I, brenin Lloegr ac ail Frwydr Falkirk yn 1746, pan gafodd y Jacobitiaid dan Bonnie Prince Charlie fuddigoliaeth dros fyddin y llywodraeth.

Ceir yma dîm pêl-droed adnabyddus, Falkirk F.C.

Gweler hefyd

Cyfeiriadau

  1. British Place Names; adalwyd 6 Hydref 2019
  2. Gwefan Ainmean-Àite na h-Alba; adalwyd 6 Hydref 2019
  3. "Names in Scots", Centre for the Scots Leid; adalwyd 12 Ebrill 2022