Mae Plaid Genedlaethol yr Alban (Saesneg: Scottish National Party neu'r SNP, Gaeleg yr Alban: Pàrtaidh Nàiseanta na h-Alba neu'r PNA) yn blaid wleidyddol adain chwith-canol Albanaidd sy'n galw am annibyniaeth i'r Alban.[3][4] Sefydlwyd y blaid yn 1934, pum mlynedd wedi sefydlu Plaid Cymru, pan gyfunwyd 'Plaid Genedlaethol yr Alban' (Saesneg: National Party of Scotland neu'r NPS) a 'Phlaid yr Alban' (Saesneg: Scottish Party. John Swinney yw ei harweinydd cyfredol; hi hefyd yw Prif Weinidog yr Alban. Yn dilyn Refferendwm annibyniaeth i'r Alban, 2014, hi yw'r drydedd blaid mwyaf ei haelodaeth yn y Deyrnas Gyfunol, a'r fwyaf yn yr Alban - pedair gwaith yn fwy na Llafur yr Alban, Ceidwadwyr yr Alban a Rhyddfrydwyr yr Alban gyda'i gilydd.[5]
Cynrychiolwyd yr SNP yn San Steffan ers i Winnie Ewing ennill sedd etholaeth Hamilton dros yr SNP ym 1976, flwyddyn wedi i Gwynfor Evans ennill is-etholiad Caerfyrddin, i Blaid Cymru.[6] Pan agorodd drysau Llywodraeth yr Alban yn 1999, yr SNP oedd yr ail blaid gryfaf, a bu'n wrth-blaid am ddau dymor. Yn dilyn Etholiad yr Alban 2007, ffurfiodd Lywodraeth leiafrifol, ac yn 2011 roedd ganddi fwyafrif llethol, a ffurfiodd Lywodraeth yr Alban.[7] Yn 2015 roedd ganddi 105,000 o aelodau, 64 Aelod Llywodraeth yr Alban a 424 cynghorydd sir.[8] Yn 2015, roedd ganddi hefyd 56 allan o 59 Aelod Seneddol a dau aelod yn Senedd Ewrop, lle mae'n rhan o'r grŵp Cynghrair Rhydd Ewrop ac yn eistedd gydag aelodau'r Cynghrair Ewropeaidd y Blaid Werdd.
Syniadaeth craidd
Mae ei syniadau gwleidyddol yn eitha tebyg i'r rhai Ewropeaidd ac yn gonglfaeni iddynt mae cymdeithas a democratiaeth. Ymhlith ei pholisiau y mae: priodas gyfunryw, gostwng oed pleidleisio i 16, diarfogi niwclear, gostwng trethi, dileu tlodi, codi tai fforddiadwy, addysg am ddim i bawb, gwrthwynebu codi gorsafoedd niwclear, buddsoddi mewn egni adnewyddadwy, dileu treth hedfan a chodi cyflogau nyrsus.[9][10]