Gwleidydd o'r Alban a chyn-arweinydd Plaid Genedlaethol yr Alban (yr 'SNP') oedd Alexander Elliot Anderson Salmond (31 Rhagfyr1954 – 12 Hydref2024). Hyd at ei ymddiswyddiad ar 19 Tachwedd2014 Salmond oedd pedwerydd Prif Weinidog yr Alban; parhaodd fel Aelod Senedd yr Alban dros Dwyrain Swydd Aberdeen hyd at 2016. Ar 19 Medi 2014, yn dilyn methiant yr ymgyrch dros annibyniaeth, dywedodd na fyddai'n ailsefyll fel Prif Weinidog y wlad; dywedodd "Mae fy nghyfnod i ar ben, ond mae'r freuddwyd yn fyw." Yn fwy na neb arall, ef fu prif ladmerydd dros annibyniaeth i'r Alban o'r 1990au hyd at fis Medi 2014. Ar 19 Tachwedd 2014 yn dilyn cyhoeddi ei ymddiswyddiad trosglwyddodd arweinyddiaeth ei blaid a Phrif Weinidogaeth ei wlad i Nicola Sturgeon.[3]
Y dyddiau cynnar
Ganwyd Salmond yng nghartref y teulu yn 101 Ffordd Preston, Linlithgow, Dwyrain Lothian, yr Alban ar y diwrnod olaf o 1956 (Hogmanay).[4][5] Ef yw'r ail o bedwar plentyn a anwyd i Robert Fyfe Findlay Salmond a Mary Stewart Salmond (née Milne), ill dau'n weithwyr sifil.[6] Trydanydd o ran crefft oedd ei dad Richard a bu ei deulu'n byw yn Linlithgow ers canol y 18g.[7] Daw enwau canol Salmond o enwau gweinidogion yr eglwys leol, arferiad cyffredin iawn yn yr ardal yr adeg honno.[8][9]
Mynychodd Academi Linlithgow Academy rhwng 1966 a 1972 cyn mynd yn ei flaen i Goleg Masnach Caeredin (Edinburgh College of Commerce) rhwng 1972 a 1973, gan ennill HNC mewn astudiaethau busnes,[10] a chael ei dderbyn i astudio ym Mhrifysgol St Andrews, ble'r astudiodd economeg a hanes yr Oesoedd Canol. Cafodd ei ethol yn Is-Lywydd (Addysg) undeb y myfyrwyr yn 1977 a hefyd ei ethol ar Gyngor Cymuned St Andrews yn yr un flwyddyn.[11] Derbyniodd radd 2:2 gradd gydanrhydedd Meistr Mewn Celf (yr Alban) mewn Economeg a'r Oesoedd Canol ym Mai 1978.[11][12]
Ymddiswyddiad fel Prif Weinidog
Ar 19 Medi 2014, yn dilyn canlyniad Refferendwm yr Alban dros Annibyniaeth, lle gwelwyd mwyafrif o bobl yr Alban, o drwch blewyn, yn gwrthod annibyniaeth, cyhoeddodd Salmond y byddai'n ymddiswyddo fel Prif Weinidog yn Nhachwedd.[13] Nicola Sturgeon oedd yr unig ymgeisydd am arweinyddiaeth yr SNP yn Perth ar 14 Tachwedd,[14][15] ac ymddiswyddodd yn ffurfiol ar y 18 Tachwedd, a dilynwyd ef unwaith eto gan Sturgeon; fe'i dewisiwyd y diwrnod wedyn - y 19fed o Dachwedd.[16][17]
Dychwelyd i San Steffan
Ar 7 Rhagfyr 2014, cyhoeddodd Salmond y byddai’n sefyll fel ymgeisydd yr SNP ar gyfer etholaeth San Steffan Gordon yn etholiad Mai 2015.[18] Enillodd sedd Gordon gyda 47.7% o’r bleidlais gan ddisodli'r Democrat Rhyddfrydol Malcolm Bruce. Ar 13 Mai 2015, penodwyd Salmond yn llefarydd materion tramor yr SNP yn Nhŷ’r Cyffredin. Yn etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig yn 2017, cafodd Salmond ei drechu gan Colin Clark o'r Ceidwadwyr
The Alex Salmond Show
Ar 9 Tachwedd 2017, cyhoeddodd y sianel RT (a elwid gynt yn Russia Today) byddai Salmond yn cyflwyno rhaglen o'r enw The Alex Salmond Show ar y rhwydwaith. Darlledwyd y sioe gyntaf ar 16 Tachwedd2017; y prif gyfwelai oedd Carles Puigdemont, cyn arlywydd Catalwnia.[19]
Cyhuddiadau o gam ymddwyn rhywiol
Ym mis Awst 2018, ymddiswyddodd Salmond o’r SNP yn wyneb honiadau o gamymddwyn rhywiol yn 2013 tra roedd yn Brif Weinidog. Mewn datganiad dywedodd ei fod am osgoi rhaniad mewnol o fewn y blaid a’i fod yn bwriadu gwneud cais i ailymuno â’r SNP unwaith y byddai wedi cael cyfle i glirio ei enw.
Ar 24 Ionawr2019, arestiodd Heddlu’r Alban Salmond, a chyhuddwyd ef o 14 trosedd, gan gynnwys dau gyhuddiad o geisio treisio, naw o ymosod yn rhywiol, dau o ymosod yn anweddus, ac un o dorri'r heddwch. Ymddangosodd yn y llys ar 21 Tachwedd a chofnodi ple o "ddieuog". Dechreuodd yr achos ar 9 Mawrth 2020; Gordon Jackson oedd yn arwain ei amddiffyniad , ac Alex Prentice oedd yn arwain yr erlyniad.
Ar 23 Mawrth 2020, cafodd Salmond ei glirio o'r holl gyhuddiadau. Cafodd rheithgor ef yn ddieuog o 12 cyhuddiad, cafodd un cyhuddiad ei ollwng gan yr erlynyddion yn gynharach yn yr achos tra canfuwyd nad oedd un cyhuddiad wedi'i brofi.[20]
Plaid Alba
Ar 26 Mawrth 2021, cyhoeddodd Salmond ei fod wedi ymuno â, ac wedi dod yn arweinydd ar Blaid Alba, plaid newydd o blaid annibyniaeth. Roedd gan y blaid ymgeiswyr yn sefyll yn Etholiad Senedd yr Alban 2021, ar y rhestr rhanbarthol yn unig. Ni enillodd y blaid unrhyw seddi.[21]