Awdurdod unedol yn yr Alban yw Dwyrain Lothian (Gaeleg yr Alban: Lodainn an Ear, Saesneg: East Lothian). Y brif dref yw Haddington, er mai Musselburgh yw'r dref fwyaf.
Crëwyd yr awdurdod unedol yn 1996, gyda'r un ffiniau a dosbarth Dwyrain Lothian o ranbarth Lothian. Mae'n ddinio ar Ddinas Caeredin, Gororau'r Alban a Midlothian.