Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y dref boblogaeth o 19,840.[3]
Sefydlwyd y dref yng nghyfnod y Rhufeiniaid, pan godwyd pont ar draws Afon Esk. Ailadeiladwyd y bont Rufeinig ar ei sylfeini gwreiddiol yn y 12g, ac fe’i hailadeiladwyd eto ym 1597, y tro hwn gyda thrydydd bwa wedi’i ychwanegu ar ochr ddwyreiniol yr afon. Mae hon, yr "Auld Brig", yn dal i gael ei defnyddio fel pont droed. I'r gogledd saif y Bont Newydd, a ddyluniwyd gan John Rennie ac a adeiladwyd ym 1806.