Roedd John Aloysius Costello (20 Mehefin1891 – 5 Ionawr1976) yn wleidydd Gwyddelig gyda phlaid Fine Gael a wasanaethodd fel Taoiseach o 1948 i 1951 a 1954 i 1957, Arweinydd yr Wrthblaid o 1951 i 1954 a 1957 i 1959 ac Atwrnai Cyffredinol Iwerddon o 1926 i 1932. Bu'n wasanaethu fel Teacht Dala (TD) o 1933 i 1943 a 1944 i 1969.[1]
Bywyd cynnar
Ganed Costello ar 20 Mehefin 1891, yn Fairview, Dulyn. Ef oedd mab iau John Costello hŷn, gwas sifil, a Rose Callaghan.
Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Uwchradd Sant Joseff, C.B., Fairview, ac yna symudodd i Ysgol O'Connell, ar gyfer dosbarthiadau uwch, ac yna mynychu Coleg Prifysgol Dulyn a graddio gyda gradd mewn ieithoedd a chyfraith fodern. Astudiodd yn King's Inns i ddod yn fargyfreithiwr, gan ennill Gwobr Fictoria yno yn 1913 a 1914.
Y Wladwriaeth Rydd
Ym 1922, ymunodd Costello â staff yr Atwrnai Cyffredinol Gwladwriaeth Rydd Iwerddon oedd newydd ei sefydlu. Tair mlynedd yn hwyrach galwyd ef i'r bar fewnol a'r flwyddyn ganlynol, 1926, daeth yn Atwrnai Cyffredinol Iwerddon, ar lunio llywodraeth plaid Cumann na nGaedheal, dan arweiniad W. T. Cosgrave. Wrth wasanaethu yn y sefyllfa hon, cynrychiolodd y Wladwriaeth Rydd mewn Cynadleddau Ymerodraethol a chyfarfodydd Cynghrair y Cenhedloedd [2]. Collodd Costello ei swydd fel Twrnai Cyffredinol Iwerddon, pan ddaeth Fianna Fáil i rym yn 1932. Y flwyddyn ddilynol, fodd bynnag, fe'i hetholwyd i Dáil Éireann, senedd y Wladwriaeth Rydd.[2]
Taoiseach y Tro Cyntaf, 1948-51
Pan alwyd etholiad yn 1948 roedd Iwerddon wedi cael 16 mlynedd di-dor o lywodraeth Fianna Fail a'r economi yn wan. Er mai Fianna Fail oedd y blaid fwyaf gyda bron hanner y seddi, penderfynodd y gwrthbleidiau i gyd a'r TDs annibynnol i gydweithio i greu llywodraeth newydd. Llwyddwyd i greu llywodraeth yn cynnwys Fine Gael, y Blaid Lafur, y 'National Labour Party' (ymraniad o'r Blaid Lafur), Clann na Poblachta a Clann na Talmhan a alwyd yn 'inter-party government' - yr un gyntaf yn hanes y wladwriaeth.
Er i bob plaid dderbyn mai Fine Gael dylsai arwain y glymblaid roedd gwrthwynebiad chwyrn i arweinydd y blaid honno, Richard Mulcahy, i fod yn Taoiseach o du Clann na Poblachta a'i arweinydd gweriniethol cryf, Seán MacBride. Cytunwyd ar Costello fel Taoiseach fel cyfaddawd, er mawr syndod iddo ef, ac yn erbyn ei ewyllus.
Uwchafbwyntiau'r Llywodraeth
Cafwyd tri digwyddiad sy'n nodweddu llywodraeth gyntaf Costell.
Datgan Gweriniaeth Iwerddon
Er gwaetha annibyniaeth i bob golwg y Wladwriaeth Rydd, roedd dal yn sefyllfa ryfedd y byddai pob deddf yn cael ei harwyddo gan Raglaw Prydain i'r ynys. Roedd hyn oherwydd Deddf Executive Authority (External Relations) Act 1936. Er i Clann na Poblachta wneud y Ddeddf yn bwynt ymgyrchu yn yr etholiad, prin iddo godi ei ben wedyn, er nad oedd Costello yn hoff ohono.
Bron ar hap ac yn sioc i bawb, ar ymweliad swyddogol â Canada ym mis Medi 1948. Gofynnwyd i Costello gan newyddiadurwr os oedd Iwerddon am adael y Gymanwlad. Atebodd Costello ei fod am ddiddymu'r Ddeddf ac am ddatgan fod Iwerddon am adael y Gymanwlad a dod yn weriniaeth. Gadawodd Iwerddon y Gymanwlad ar 18 April 1949, pan ddaeth Deddf Gweriniaeth Iwerddon 1948 i rym.
Cynllun Mam a Phlentyn
Yn 1950, cyflwynodd y Gweinidog dros Iechyd, annibynnol ei farn, Noel Browne, Gynllun Mam a Phlentyn (Mother and Child Scheme). Byddai'r cynllun yn darparu triniaeth mamolaeth am ddim i famau a'u plant â gofal meddygol am ddim hyd at un ar bymtheg oed - darpariaeth arferol mewn rhannau eraill o Ewrop ar y pryd. Gwrthwynebwyd y bil gan feddygon, oedd yn ofni colli incwm, ac esgobion Catholig, a oedd yn gwrthwynebu'r diffyg profion modd a ragwelwyd ac yn ofni y gallai'r cynllun arwain at lacio dulliau atal cenhedlu ac erthyliad. Rhannwyd y cabinet dros y mater, gyda llawer teimlo na allai y wladwriaeth fforddio cynllun o'r fath oedd yn costio £2 miliwn y flwyddyn. Gwnaeth Costello yn glir, yn wyneb gwrthwynebiad o'r fath, na fyddent yn cefnogi'r Gweinidog. Ymddiswyddodd Browne o'r llywodraeth ar 11 Ebrill 1951, a gollyngwyd y cynllun. Cyhoeddodd ei gohebiaeth yn syth â Costello a'r esgobion, rhywbeth nad oedd wedi'i wneud hyd yma. Byddai deilliannau o'r Cynllun Mam a Phlentyn yn cael eu cyflwyno mewn Deddfau Iechyd Cyhoeddus 1954, 1957 a 1970.
Rhagoriaethau eraill y Glymblaid
Cafwyd llwyddiannau i lywodraeth gyntaf Costello: adeiladwyd nifer fawr o dai, sefydlwyd yr Industrial Development Authority (rhagflaenydd syniad y WDA yng Nghymru), sefydlwyd Córas Tráchtála a gwnaethpwyd camau bras i daclo tuberculosis.[20] Ymunodd Iwerddon â nifer o gyrff ryngwladol gan gynnwys the Organization for European Economic Co-operation a Chyngor Ewrop. Ond gwrthododd y Llwyodraeth ar ymuno â NATO, mae'n debyg am fod Prydain yn dal i reoli Gogledd Iwerddon. Llwyddwyd i fwrw ymlaen i ledaenu trydan i rannau pellennig o'r wlad.
Etholiad 1954
Collodd y Glymblaid yr etholiad a bu de Valera a'i Fianna Fail mewn llywodraeth eto.
Ail gyfnod Costello fel Taoiseach, 1954-57
Collodd Fianna Fáil rym yn etholiad 1957 mewn ymgyrch a ddominyddwyd gan diffyg twf economi'r wlad. Sefydlwyd etholiad glymblaid eto rhwng Fine Gael-Plaid Lafur-Clann na Talmhan, gyda Costello unwaith eto yn Taoiseach*.[24]
O'i chymharu â Llywodraeth gyntaf Costello, siom bu'r ail un. Methwyd â mynd i'r afael â phroblemau economaidd y wlad oedd wedi eu bwrw ymhellach gan Argyfwng Suez a chodiad ym mhrif olew. Dechreuwyd Ymgyrch y Ffin gan yr IRA lle dechreont ymosod ar symbolau a strwythurau ar hyd ffin y weriniaeth gyda'r Gogledd.
Ymysg rhai o ychydig buddugoliaethau nodweddol yr ail dymor oedd i'r Iwerddon gael ei derbyn yn aelod o'r Cenhedloedd Unedig newydd yn 1955 ac yn 1956 mewn ymweliad â'r Tŷ Gwyn cyflwynodd Costello bowlen o siamroc i'r Arlywydd, gan gychwyn traddodiad sydd wedi parhau hyd heddiw.
Galwyd etholiad yn dilyn cynnig o ddiffyg cefnogaeth gan Seán MacBride, arweinydd Clann na Poblachta ac yna pleidlais arall gan Fianna Fail. Tybiwyd hefyd fod calon Costello ddim mewn llywodraethu wedi marwolaeth ei wraig flwyddyn ynghynt.
Enillwyd etholiad 1957 gan Fianna Fail o dan arweinyddiaeth blaengar Seán Lemass. Bu Fianna Fail mewn grym am 16 mlynedd yn ddi-dor.
Ymddeoliad
Dychwelodd Costello i weithio'n rhan amser fel bar gyfreithiwr ac ymddeolodd fel TD yn 1969. Cymerwyd ei le gan Garret FitzGerald, a oedd ei hun am fynd ymlaen i fod yn Taoiseach ar ran Fine Gael yn yr 1980au.
Darllen pellach
John A. Costello 1891-1976 Compromise Taoiseach, Anthony J. Jordan, Westport Books 2007.