Huw Tudor |
---|
|
Ganwyd | Norman Owain Williams 1939 Llanfachraeth, Ynys Môn |
---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
---|
Galwedigaeth | actor Cymreig |
---|
Actor a llenor o Gymru oedd Huw Tudor (ganwyd 1939), a anwyd yn Llanfachreth, Sir Fôn.[1] Roedd o'n wyneb a llais cyfarwydd ar y llwyfan, teledu a ffilmiau Cymraeg am dros 30 mlynedd, rhwng 1960 a 1999.[2] Cyfranodd tuag at sawl cynhyrchiad gan Gwmni Theatr Cymru. Roedd o'n adnabyddus am ei lais dramatig ac am ei berfformiadau cofiadwy mewn cynyrchiadau fel Barbarossa (1989) a Rhandir Mwyn (1973).
Ei enw bedydd oedd Norman Owain Williams.
Gyrfa
Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Llanfachraeth ac Ysgol Uwchradd Caergybi. Dechreuodd ei yrfa darlledu pan yn 16 oed, cyn derbyn ysgoloriaeth i fynychu coleg RADA yn Llundain.[1][2]
Portreadodd y cymeriad Thomas Holme yn y Rhandir Mwyn, addasiad teledu o nofel Marion Eames, i BBC Cymru. Arweiniodd hyn at ei ddiddordeb yn hanes William Penn, gan mai Holme oedd y gŵr benododd Penn yn brif oruchwyliwr ac asiant ei stad ym Mhennsylvania. Bu ar sawl ymweliad â'r Amerig.[3]
Roedd hefyd yn aelod o'r Seiri Rhyddion.[1]
Cafodd ei anrhydeddu ym 1984 fel Cymrawd Oes o'r International Biographical Association am ei wasanaeth i ddiwylliant Cymraeg.[2]
Un o'i ymddangosiadau olaf ar S4C oedd mewn addasiad Harri Pritchard Jones o ddrama Saunders Lewis, Brad ym 1994. Ni fu'n gweithio yn ystod ei flynyddoedd olaf, oherwydd gwaeledd.[3]
Gwaith
Ffilmiau
Teledu
Llwyfan
Radio
Cyfeiriadau