Drama gomedi dair-act yn yr iaith Saesneg yw The Druid's Rest gan y dramodydd a'r llenor Emlyn Williams. Cyfansoddwyd a llwyfannwyd y ddrama'n wreiddiol yn Theatr y Royal Court, Lerpwl, ym 1943. Y dramodydd ei hun oedd yn cyfarwyddo a Richard Burton yn serenu yn ei brif ran cyntaf ar lwyfan. Cyhoeddwyd y ddrama gan William Heinemann, Llundain ym 1944. Lleolir y ddrama mewn tafarn yng Nghymru o'r enw The Druid's Rest.[1]
Disgrifiad byr
Mewn tafarn fechan ym mhentref Ton-y-maes, mae'r trigolion yn paratoi i gynnal Eisteddfod, tra bod mab ieuengaf y tafarnwr yn darllen llyfrau am lofruddiaeth a straeon dirgel. Ond daw cyniweiriwr dirgel i ymweld â'r dafarn, gan ffugio bod yn fonheddwr o Sais enigmatig.
Cefndir
Ym mis Awst 1943, talodd Emlyn Williams am hysbyseb yn y Western Mail yn chwilio am actorion ifanc ar gyfer ei gomedi newydd o'r enw 'The Druid's Rest'. Ei fwriad oedd i lwyfannu'r ddrama yn Llundain yn Hydref 1944. O fewn yr hysbyseb, nododd yn benodol ei fod yn chwilio am fachgen ifanc oedd â'r gallu i siarad Cymraeg, ar gyfer y brif ran:
"Mr. Emlyn Williams is looking for several Welsh actors and actresses for small parts in his new play which will open in the autumn. Types wanted vary from young people to character actors and actresses. A Welsh boy actor is also required. Boy applicants must be fourteen years by December 1st, but are expected to look younger. Those who think they can fill these roles should write within seven days to Mr. Williams at 15 Pelham Crescent, London SW7, giving age, qualifications and enclosing a recent photograph".[2]
Un o'r rhai a welodd yr hysbyseb oedd Philip Burton, a gynigiodd y llanc ifanc oedd dan ei ofal fel gwarcheidwad ('ward') - Richard Jenkins. Wedi trefnu cyfweliad gyda'r dramodydd yng Nghaerdydd, a chael cynnig rhan 'Glan - y mab hynaf', dyna pryd y camodd yr actor Richard Burton ar y llwyfan am y tro cyntaf ar yr 22 Tachwedd 1943. Yn ddeunaw oed, cychwynodd ei 'yrfa yn y theatr, gan deithio'r cynhyrchiad drwy'r wlad. Ar ôl y daith, agorodd y cynhyrchiad yn swyddogol yn Theatr yr Haymarket, Llundain.
Mae'r ddrama wedi'i selio ar blentyndod y dramodydd yn Sir y Fflint ble roedd ei rieni'n cadw tafarn o'r enw The White Lion.
Cymeriadau
Kate Edwards (née Finch) - gwraig Job Edwards
Glan - eu mab hynaf
Tommos - y mab ieuengaf
Sarah Jane Jehovah - nith Job
Job Edwards - perchennog The Druid's Rest
Issmal Hughes De'r Amerig - crwydryn
Zachariah yr heddwas - y cwnstabl lleol
Cyniweiriwr dirgel
Cynyrchiadau nodedig
1940au
Cynhyrchiad cynta'r ddrama yn y Royal Court, Lerpwl ym mis Tachwedd 1943. Emlyn Williams ei hun oedd yn cyfarwyddo. Dyma gynhyrchiad proffesiynol cyntaf Richard Burton.[2]
Cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd yn Theatr Gwynedd yn unig, dros yr Haf 1992. Cyfarwyddwr Graham Laker; cynllunydd John Jenkins; cynllunydd goleuo Tony Bailey Hughes; cynllunydd sain Siôn Havard Gregory; cynllun y poster Jac Jones; cast:
Cynhyrchiad Theatr Y Finborough yn 2009.[3] Y cynhyrchiad cyntaf yn Llundain ers 60 mlynedd. Cyfarwyddwr David Cottis; cynllunydd Fiona Parker; goleuo Ben Turnbull; cast:
Kate Edwards (née Finch) - Anna Lindup
Glan - Alyn Gwyndaf
Tommos - Joshua McCord
Sarah Jane Jehovah - Rachel Isaac
Job Edwards - David Broughton-Davies
Issmal Hughes De'r Amerig - Michael Norledge
Zachariah yr heddwas - Dafydd Wyn Roberts
Cyniweirwr dirgel - Bennet Thorpe
Cyfeiriadau
↑Rhaglen Cwmni Theatr Gwynedd o The Druid's Rest. 1992.